Atebion i’ch cwestiynau
Sut beth yw astudio gyda'r Brifysgol Agored?
Byddwch yn medru astudio o adref, yn yr ysgol, neu le bynnag fynnoch chi. Byddwch yn defnyddio ein Hamgylchedd Dysgu Rhith i gael mynediad gynnwys modiwl fel gwerslyfrau, fideo a sain, a thiwtorialau wedi’u recordio. Yma, gallwch hefyd rhyngweithio gyda thiwtoriaid a myfyrwyr eraill drwy fforymau ar-lein.
A fyddaf yn cael cymorth?
Er bod TAR gyda'r Brifysgol Agored yn cynnwys dysgu o bell, mae llawer o gymorth ar gael. Byddwch yn cael Tiwtor Cwricwlwm a fydd yn arbenigo yn eich maes dewisol chi, a byddwch yn cael cymorth a chyngor ymarferol gan fentor yn yr ysgol.
Hefyd, byddwch yn medru siarad gyda'n Tîm Cymorth Myfyrwyr ymrwymedig a all roi help ac arweiniad ichi drwy gydol eich astudiaethau. Ni fyddwch ar eich pen eich hun.
Pa gymwysterau ydw i eu hangen?
Mae'n rhaid ichi fod â gradd yn barod i gofrestru ar gyfer y TAR. Os hoffech chi ddod yn athro neu athrawes ysgol uwchradd, mae’n rhaid i’ch gradd gynnwys cyfran sylweddol o’r pwnc rydych eisiau ei addysgu.
Dylech fod â Gradd B neu uwch mewn Mathemateg neu Fathemateg-Rhifedd ar lefel TGAU (neu gyfwerth). Ac un o’r canlynol ar o leiaf Gradd B (neu gyfwerth):
- Iaith Saesneg
- Llenyddiaeth Saesneg
- Iaith Gymraeg
- Llenyddiaeth Gymraeg.
Os oes gennych radd sy’n gyfwerth â B (TGAU neu gyfwerth) mewn unai Llenyddiaeth Saesneg neu Lenyddiaeth Gymraeg, mae'n rhaid ichi hefyd fod ag o leiaf gradd C (TGAU neu gyfwerth) yn yr arholiad TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg cyfatebol.
Os ydych chi am ddod yn athro ysgol gynradd, rhaid i chi hefyd fod â Gradd C neu uwch mewn Gwyddoniaeth ar lefel TGAU (neu gyfwerth).
Oherwydd yr amgylchiadau annisgwyl presennol, efallai y derbynnir Gradd C (TGAU neu gyfwerth) mewn Mathemateg neu Saesneg Iaith ar gyfer mynediad Hydref 2020 yn unig. Bydd gofyn i fyfyrwyr gyflawni'r Radd B hanfodol (TGAU neu gyfwerth) yn ystod y rhaglen neu bydd gofyn iddynt roi'r gorau i'r cwrs.