Coming soon banner
 

Tystysgrif Addysg i Raddedigion yng Nghymru

I ddod yn athro, rydych chi angen TAR gyda Statws Athro Cymwysedig (SAC). Bydd ein TAR yn eich cymhwyso i weithio naill ai ar y cyfnodau ysgolion cynradd neu uwchradd ac mae’n canolbwyntio ar y cwricwlwm yng Nghymru. Gallwch astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, y Saesneg neu gyfuniad o’r ddau. Mae'r addysgu ar-lein, gan gynnwys seminarau ar-lein byw, gyda chymorth wyneb yn wyneb yn cael ei ddarparu yn yr ysgol. Byddwch yn profi addysgu mewn dwy ysgol wahanol yng Nghymru (o leiaf 120 diwrnod dros y ddwy flynedd). Gall myfyrwyr sy’n cael eu cymeradwyo gan ysgol sy'n cymryd rhan yn y cynllun gael eu hariannu'n llawn (llwybr cyflogedig); neu, gallwch hunan-ariannu a gallech fod yn gymwys i gael benthyciad myfyriwr a/neu grant cynhaliaeth (llwybr rhan-amser).

English

Nodweddion allweddol y cwrs

  • Bod yn gymwys i addysgu yn y cyfnodau cynradd neu uwchradd mewn un o ddewis o bynciau.
  • Gallu astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu Saesneg ledled Cymru.
  • Rhaglen achrededig lawn gan Gyngor y Gweithlu Addysg yn arwain at Statws Athro Cymwys.
  • Cysylltu theori ag ymarfer wrth ddatblygu eich gwybodaeth am bwnc.
  • Dewiswch o ddau lwybr, cyflogedig neu ran-amser, gan ddewis pa un bynnag sy'n gweddu orau i'ch amgylchiadau personol.
 

Tystysgrif

Cod y cwrs
K36
Credydau
120
Hyd y cwrs
2 flynedd
Darllenwch fwy am hyd y cwrs
Dull astudio
Dysgu o bell
Dysgwch fwy yn Pam dewis Y Brifysgol Agored?
Cost y cwrs
Gweler Ffioedd a chyllid
Gofynion mynediad

Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn gofynion mynediad.

Gofynnwch am eich prosbectws

Archwiliwch ein pynciau a'n cyrsiau.

Gofynnwch am eich copi heddiw

Modiwlau

Mae'r TAR hwn wedi'i gynllunio ar gyfer Cwricwlwm Cymru ac mae'n cefnogi'r agenda ddiwygio ar gyfer dysg proffesiynol athrawon.

Gallwch ddilyn un o ddau lwybr: y llwybr cyflogedig neu'r llwybr rhan-amser. Mae'r ddau lwybr yn cynnwys yr un modiwlau ac yn gymysgedd o sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb gyda mentoriaid a thiwtoriaid ymarfer.

Llwybr cyflogedig

Os ydych eisoes yn gweithio mewn ysgol wladol briff ffrwd fel cymhorthydd addysgu neu swydd nad ydyw yn ymwneud ag addysgu, gallwch wneud cais i'ch ysgol ardystio eich astudiaethau.

Mae’n rhaid i’ch ysgol wneud cais i fod yn ysgol bartner a darparu llythyr cymeradwyo ar eich cyfer, gan mai’r ysgol fydd yn talu eich cyflog. Bydd angen i'ch ysgol gytuno i wneud cais am y llwybr hwn. Byddwch yn astudio eich cwrs TAR o amgylch eich dyletswyddau ysgol presennol fel rhan o’ch cyflogaeth lawn amser mewn ysgol, a bydd eich costau astudio yn cael eu talu gyda grant hyfforddiant gan Lywodraeth Cymru.

Os ydych eisiau newid gyrfa a ddim yn gweithio mewn ysgol ar hyn o bryd, gallwch barhau i wneud cais ar gyfer y llwybr cyflogedig ar gyfer un o’n pynciau uwchradd prin. Byddwch angen dod o hyd i ysgol uwchradd sy’n fodlon eich ardystio, a gallwn eich helpu drwy un o’n nifer o ysgolion partner yng Nghymru.

Darllenwch mwy am y llwybr cyflogedig

Llwybr rhan-amser

Os ydych yn newid gyrfa, ac eisiau dod yn athro ond nad ydych yn gweithio mewn ysgol, neu os nad yw'r llwybr cyflogedig yn addas ar eich cyfer chi, mae opsiwn rhan amser ar gael. Mae'r llwybr hwn yn cynnig peth hyblygrwydd. Byddwch yn astudio tuag at eich TAR, ac yn ennill profiad addysgu ymarferol rhan-amser mewn ysgol law yn llaw â’ch swydd ran amser bresennol neu ymrwymiadau bywyd eraill.Bydd angen i fyfyrwyr ar y llwybr rhan-amser ystyried sut i ymrwymo i tua 16 awr o astudio'r wythnos a chwblhau 120 diwrnod o ymarfer dysgu ar draws y 2 flynedd (60 diwrnod y flwyddyn). Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr ymrwymo i 2 i 3 diwrnod yr wythnos ar gyfer ymarfer dysgu i sicrhau eu bod yn bodloni'r nifer gofynnol o ddiwrnodau ymarfer dysgu o fewn y cyfnodau penodol. Mae'n ofynnol i fyfyrwyr ar y llwybr rhan-amser gwblhau bloc ymarfer dysgu llawn amser o 30 diwrnod gorfodol yn yr ail flwyddyn. Mae’r deiagram hwn yn amlinellu nodweddion allweddol y llwybr hwn. Byddwch yn ariannu’r llwybr hwn eich hun, ac yn gallu gwneud cais am fenthyciad myfyriwr a grantiau cynhaliaeth rhan-amser i helpu gyda’r costau.

Byddwch yn ariannu’r llwybr hwn eich hun, ac yn gallu gwneud cais am fenthyciad myfyriwr a grantiau cynhaliaeth rhan-amser i helpu gyda’r costau.

Darllenwch mwy am y llwybr rhan-amser

Beth fyddaf yn ei astudio?

Mae'r ddau lwybr yn cynnwys dau fodiwl. Mae’r modiwl cyntaf yn 60 credyd yr un ar lefel 6 (israddedig) ac mae’r ail fodiwl yn 60 credyd ar lefel 7 (ôl-raddedig).

Mae’r ddau fodiwl yn orfodol, ac rydych yn eu hastudio yn y drefn a nodwyd.

I ennill y cymhwyster hwn, rydych chi angen 120 credyd fel a ganlyn:

Modiwlau llwybrau cyflogedig Credydau Dyddiad dechrau nesaf
TAR 1 a 2 (EE306)
60 Medi 2024
TAR 3 (EE806)
60 Medi 2025

Neu

Modiwlau'r llwybr rhan-amser Credydau Dyddiad dechrau nesaf
TAR 1 a 2 (EEXP306)
60 Medi 2024
TAR 3 (EEXP806)
60 Medi 2025

Mae pob modiwl yn cynnwys astudiaeth academaidd drwy seminarau ar-lein dan arweiniad eich tiwtor cwricwlwm; cyfnod o brofiad ysgol; a chyflwyno portffolio o dystiolaeth sy'n cynnwys ymatebion i dasgau academaidd ac adroddiadau o'ch profiad ysgol. O ddechrau eich astudiaethau, byddwch yn ymgysylltu â chyfrwng y Gymraeg mewn cyd-destun ysgol, gan adeiladu ar eich lefel ar ddechrau'r TAR.

Bydd pob myfyriwr yn cael ei gefnogi i ddatblygu ei sgiliau Cymraeg, sy’n allweddol wrth gyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru.

Byddwch yn symud o ymgyfarwyddo i atgyfnerthu eich dysgu yn TAR 1 a 2 i ymarfer addysgu’n annibynnol yn TAR 3. Wrth i chi symud drwy'r modiwlau, bydd eich dealltwriaeth o'r damcaniaethau a'r cysyniadau yn datblygu. Bydd eich profiad a'ch asesiadau ymarferol yn eich paratoi ar gyfer eich modiwl nesaf ac yn eich helpu i symud ymlaen tuag at fodloni'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru.

Bydd yr addysgu ar draws y modiwlau drwy gyfres o linynnau sy'n canolbwyntio ar ymarfer. Byddwch yn datblygu sgiliau o'r canlynol:

  • Cwricwlwm
  • Deall dysgwyr
  • Cynllunio ar gyfer dysgu
  • Addysgeg
  • Asesiad
  • Ymarfer proffesiynol

Bydd theori academaidd yn cael ei chyfuno â phrofiad sylweddol, â chymorth mewn ysgolion.

Bydd myfyrwyr cyflogedig yn ymgymryd â phrofiad ymarferol ar yr un pryd ag y byddan nhw’n astudio. Bydd myfyrwyr rhan-amser yn ymgymryd â'u profiad ymarferol ar ôl cwblhau eu hastudiaeth academaidd ym mhob modiwl. Bydd lleoliadau ysgol ar gael mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg.

Byddwch yn gweithio gyda'ch mentor, ac aelodau staff yr ysgol i ymgymryd â chyfrifoldeb addysgu cynyddol. Byddwch yn symud o gymorth yn yr ystafell ddosbarth, a chynllunio ac addysgu gwersi unigol i gynllunio ac addysgu cyfres o wersi yn TAR 1 a 2 i fod yn gyfrifol am gynllunio, darparu adnoddau ac addysgu amrywiaeth o wersi ar eich pen eich hun yn TAR 3.

P'un a ydych ar y llwybr cyflogedig neu ran-amser, byddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil ystafell ddosbarth unigol yn TAR 3. I fyfyrwyr ar y llwybr rhan-amser, bydd angen i chi gwblhau 60 diwrnod llawn o brofiad addysgu, mae'n rhaid ymgymryd â 30 ohonynt mewn bloc (pum niwrnod yr wythnos dros chwe wythnos ysgol yn olynol).

Bydd mentoriaid yn eich cefnogi drwy gydol eich profiad ysgol. Byddan nhw'n cyfryngu ac yn hwyluso tasgau rheolaidd yn yr ysgol, sy'n bwydo i mewn i'ch astudiaethau.

Deilliannau dysgu, addysgu ac asesu

Disgrifir deilliannau dysgu'r cymhwyster hwn mewn pedwar maes:

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth.
  • Sgiliau gwybyddol.
  • Sgiliau allweddol.
  • Sgiliau ymarferol a phroffesiynol.

Darllenwch wybodaeth fanylach am y deilliannau dysgu.

Ar ôl cwblhau

Wedi i chi gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, byddwn yn dyfarnu ein Tystysgrif Addysg i Raddedigion i chi. Bydd gennych hawl i ddefnyddio'r llythrennau TAR ar ôl eich enw. Byddwn hefyd yn eich argymell ar gyfer SAC (Statws Athro Cymwysedig) i'r corff proffesiynol, Cyngor y Gweithlu Addysg.

Cewch gyfle i fynychu seremoni raddio.

Rheoliadau

Fel un o fyfyrwyr Y Brifysgol Agored, dylech fod yn ymwybodol o gynnwys y rheoliadau sy'n benodol i gymwysterau isod a'r rheoliadau academaidd sydd ar gael ar ein gwefan Polisïau a Rheoliadau Myfyrwyr.