You are here

  1. Hafan
  2. Ein gwaith
  3. Partneriaeth AGA Y Brifysgol Agored
  4. Y llwybr cyflogedig

Y llwybr cyflogedig

Mae'r opsiwn cyflogedig ar gael ar y llwybr cynradd a'r llwybr uwchradd mewn Gwyddoniaeth, Mathemateg, Cymraeg, Saesneg, Ddylunio a Thechnoleg neu Chyfrifiadura/TGCh.

Mae newidiadau newydd i gyfraniad grant cyflog Llywodraeth Cymru yn golygu nad yw ysgolion bellach yn talu cyflogau myfyrwyr cyfrwng Cymraeg sy’n astudio i ddod yn athrawon uwchradd. Ar gyfer ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg, bydd Llywodraeth Cymru’n cyfrannu grant cyflog 100% i ysgolion sy'n cefnogi myfyriwr cyflogedig TAR ar unrhyw un o'r 6 pwnc sydd ar gael, neu grant cyflog 100% i ysgolion cyfrwng Saesneg sy’n cefnogi myfyriwr i fod yn athro Cymraeg. Ar gyfer ysgolion Uwchradd cyfrwng Saesneg, mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu grant cyflog o 50% wrth gymeradwyo myfyrwyr yn y 5 o’r 6 pwnc prinder.

Mae’r deiagram hwn yn amlinellu nodweddion allweddol y llwybr hwn. 

Rhaid i ysgolion wneud cais am statws Ysgol Bartner i allu cynnig y llwybr cyflogedig.
Gwnewch gais i ddod yn ysgol bartner

Amlinellir ymrwymiadau ysgolion ardystio yma.

Bydd myfyrwyr yn gweithio tuag at Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) gyda SAC dros ddwy flynedd.

Byddant yn gweithio tuag at 60 credyd ar Lefel 6 (sy'n cyfateb i flwyddyn olaf gradd israddedig) ym mlwyddyn 1. Ym mlwyddyn 2 byddant yn gweithio tuag at 60 credyd ar Lefel 7 (lefel Meistr).

Mae hwn yn gwrs dysgu o bell ac mae digon o gefnogaeth ar gael. Mae’r ddarpariaeth academaidd yn gyfuniad o ddeunyddiau astudio ar-lein a sesiynau seminar byw ar-lein gyda Thiwtor Cwricwlwm, a fydd yn arbenigwr yn ei dewis faes. Bydd mentor yn yr ysgol yn rhoi cymorth a chyngor ymarferol.

Bydd myfyrwyr yn defnyddio ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) i gael mynediad at gynnwys modiwlau fel gwerslyfrau, fideo a sain, a gweithgareddau ymarfer dysgu. Dyma lle byddant hefyd yn gallu rhyngweithio â thiwtoriaid a myfyrwyr eraill trwy fforymau ar-lein.

Hefyd, byddant yn gallu cysylltu â’n Tîm TAR Cymru ymroddedig a all ddarparu cymorth ac arweiniad trwy gydol eu hastudiaethau.

Os yw rhywun yn gweithio mewn ysgol wladol prif ffrwd fel cynorthwyydd addysgu neu mewn rôl nad yw'n rôl addysgu, gallant wneud cais i'ch ysgol gymeradwyo eu hastudiaethau. Rhaid i'r ysgol wneud cais i ddod yn ysgol bartner a darparu llythyr ardystiad i'r ymgeisydd Llythyr Ardystio TAR, gan y bydd yr ysgol yn talu ei gyflog. Bydd angen iddynt gael cytundeb gan eu hysgol i wneud cais am y llwybr hwn.

Mae newidiadau newydd i gyfraniad grant cyflog Llywodraeth Cymru yn golygu nad yw ysgolion bellach yn talu cyflogau myfyrwyr cyfrwng Cymraeg sy’n astudio i ddod yn athrawon uwchradd. Ar gyfer ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg, bydd Llywodraeth Cymru’n cyfrannu grant cyflog 100% i ysgolion sy'n cefnogi myfyriwr cyflogedig TAR ar unrhyw un o'r 6 pwnc sydd ar gael, neu grant cyflog 100% i ysgolion cyfrwng Saesneg sy’n cefnogi myfyriwr i fod yn athro Cymraeg. Ar gyfer ysgolion Uwchradd cyfrwng Saesneg, mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu grant cyflog o 50% wrth gymeradwyo myfyrwyr yn y 5 o’r 6 pwnc prinder.

Byddant yn astudio ar gyfer eu TAR o amgylch eu dyletswyddau ysgol presennol fel rhan o gyflogaeth llawn-amser mewn ysgol ac mae eu costau astudio yn cael eu talu gan grant hyfforddi gan Lywodraeth Cymru.

Mae recriwtio i’r llwybr cyflogedig yn dibynnu ar ddau beth yn digwydd ar yr un pryd:

1. Maent yn gwneud cais i'r rhaglen yn ôl eu teilyngdod eu hunain ac maent yn llwyddiannus trwy'r broses ddethol. Cofiwch – nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael felly mae’n hynod gystadleuol. Nid yw ardystiad ysgol yn gwarantu lle ar y rhaglen.

2. Mae eu hysgol yn gwneud cais am statws Ysgol Bartner drwy ddangos ei bod yn bodloni ein meini prawf mynediad. Weithiau, efallai na fydd ysgolion yn gallu bodloni ein meini prawf (er enghraifft, os ydynt o dan mesurau arbennig, neu os nad ydynt yn ysgol wladol prif ffrwd).

*Sylwer na fyddwn yn gallu prosesu cais unigolyn oni bai bod yr ysgol wedi cadarnhau ei statws fel Ysgol Bartner cyn y cyfweliad.

*Sylwer mai dim ond ar y llwybr uwchradd y mae'r opsiwn cyflogedig heb ardystiad ar gael.

Gall ysgolion uwchradd ddweud wrthym a hoffent gefnogi aelod staff newydd ar y llwybr cyflogedig a chysylltu â ni i gael eu paru ag ymgeisydd uwchradd cymwys yn y maes hwnnw (naill ai Gwyddoniaeth, Mathemateg, Cymraeg, Saesneg, Ddylunio a Technoleg neu Chyfrifiadura/TGCh).

Byddwn yn rhannu manylion yr ymgeisydd gydag unrhyw Ysgolion Bartner yn yr ardal i'n helpu gyda'r gwasanaeth paru. Efallai y byddwn yn gofyn i ymgeiswyr gwblhau proffil i'w rannu ag ysgolion.

Mae'r galw yn aml yn fwy na'r lleoliadau sydd ar gael.

Mae'r llwybr cyflogedig yn golygu ymrwymiad ariannol gan ysgol ac mae'n ofynnol i ysgol dderbyn gweithiwr newydd fel aelod o staff.

Mae newidiadau newydd i gyfraniad grant cyflog Llywodraeth Cymru yn golygu nad yw ysgolion bellach yn talu cyflogau myfyrwyr cyfrwng Cymraeg sy’n astudio i ddod yn athrawon uwchradd. Ar gyfer ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg, bydd Llywodraeth Cymru’n cyfrannu grant cyflog 100% i ysgolion sy'n cefnogi myfyriwr cyflogedig TAR ar unrhyw un o'r 6 pwnc sydd ar gael, neu grant cyflog 100% i ysgolion cyfrwng Saesneg sy’n cefnogi myfyriwr i fod yn athro Cymraeg. Ar gyfer ysgolion Uwchradd cyfrwng Saesneg, mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu grant cyflog o 50% wrth gymeradwyo myfyrwyr yn y 5 o’r 6 pwnc prinder.

Os nad oes lleoliadau cyflogedig ar gael yn ardal yr ymgeisydd, byddwn yn anelu at roi gwybod iddynt erbyn mis Mai. Mewn rhai achosion, efallai y bydd modd cynnig lle iddynt ar y llwybr rhan-amser (ond bydd hyn yn dibynnu ar argaeledd lleoedd).

*Sylwer mai dim ond ar y llwybr uwchradd y mae'r opsiwn cyflogedig heb ardystiad ar gael.

Os bydd ymgeiswyr yn llwyddiannus yn y cyfweliad ac yn bodloni'r holl ofynion mynediad, fe ddôn nhw yn ddarpar athrawon cyflogedig. Mae hyn yn golygu eu bod yn gyflogai ac yn ddarpar athro ar yr un pryd.

Cânt eu cyflogi gan yr ysgol yn llawn-amser am ddwy flynedd a bydd ganddynt gytundeb newydd y maent yn cytuno arno gyda'u pennaeth am y cyfnod hwnnw.

Mae newidiadau newydd i gyfraniad grant cyflog Llywodraeth Cymru yn golygu nad yw ysgolion bellach yn talu cyflogau myfyrwyr cyfrwng Cymraeg sy’n astudio i ddod yn athrawon uwchradd. Ar gyfer ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg, bydd Llywodraeth Cymru’n cyfrannu grant cyflog 100% i ysgolion sy'n cefnogi myfyriwr cyflogedig TAR ar unrhyw un o'r 6 pwnc sydd ar gael, neu grant cyflog 100% i ysgolion cyfrwng Saesneg sy’n cefnogi myfyriwr i fod yn athro Cymraeg. Ar gyfer ysgolion Uwchradd cyfrwng Saesneg, mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu grant cyflog o 50% wrth gymeradwyo myfyrwyr yn y 5 o’r 6 pwnc prinder.

Os ydynt yn aelodau presennol o staff, efallai y byddant am drafod gyda’u pennaeth beth fydd yn digwydd ar ôl dwy flynedd, neu beth fyddai’n digwydd i’w rôl pe baent yn tynnu’n ôl o’r rhaglen.

Sylwch nad ydym yn ymhel â chytundebau.

Byddant yn cael eu talu ar o leiaf Pwynt 1 ar y Raddfa Gyflog Athrawon Heb Gymhwyso yn llawn- amser.

Bydd eu cyflogaeth yn cynnwys ymgymryd â rolau a chyfrifoldebau yn unol â'u statws newydd fel athro heb gymhwyso (a rhaid iddo fod yn gysylltiedig â chymorth addysgu a dysgu).

Bydd ganddynt amserlen hyblyg sy'n cyfuno eu rôl cymorth dysgu ag amser wedi'i neilltuo ar gyfer astudio modiwlau ar-lein a seminarau a chyfnodau dysgu ymarfer TAR pwrpasol.

Byddant hefyd yn treulio cyfnod mewn ail ysgol, a elwir yn Ail Brofiad Ysgol (gweler isod).  

Mae darpar athrawon i gyd yn treulio amser yn dysgu mewn lleoliad ysgol, a elwir yn ‘Ymarfer Dysgu’. Mae hwn yn rhan annatod o unrhyw gymhwyster TAR yng Nghymru a rhaid iddo fodloni rheolau achredu a nodir gan Gyngor y Gweithlu Addysg a Llywodraeth Cymru. Mae enghreifftiau yn cynnwys:

  • Y gofyniad statudol i ymgymryd â 120 diwrnod o brofiad ysgol
  • Profiad mewn dau leoliad ysgol gwahanol
  • Addysgu ar draws y cyfnodau oedran

Tra bydd y myfyrwyr yn yr ysgol, byddant yn ymgymryd â gweithgareddau ymarfer dysgu, wedi'u cynllunio i bontio eu hastudiaethau modiwl a'u profiadau ymarfer dysgu.

Mae ymarfer dysgu yn digwydd mewn lleoliad ysgol, wedi'i gefnogi gan raglen o gefnogaeth mentor sy'n cymryd agwedd raddedig at ddatblygu addysgu.

Mae’r Ail Brofiad Ysgol yn ofyniad gorfodol ac mae’n rhan o lwybr TAR Cyflogedig Partneriaeth AGA y Brifysgol Agored y mae’n rhaid i ni gadw ato. Mae’n agwedd fuddiol ar y rhaglen, gan gefnogi’r athro dan hyfforddiant i ddatblygu eu sgiliau ymhellach mewn cyd-destun ysgol gwahanol. Bydd myfyrwyr ar y llwybr Cyflogedig yn mynychu Ail Brofiad Ysgol am floc llawn amser o 25 diwrnod mewn ysgol bartner arall yn ystod Mehefin a Gorffennaf ym mlwyddyn 1.

Ni allwn, o dan amgylchiadau arferol, gefnogi ceisiadau i gwblhau'r ABY ar adeg arall.

Mae trefnu lleoliadau darpar athrawon yn broses gymhleth a rhaid inni ystyried sawl agwedd.

Mae ein Tîm Partneriaeth yn gweithio'n agos gydag ysgolion i feithrin perthynas, deall cynlluniau a chapasiti i gytuno ar leoliadau. Er y gall fod Ysgol Bartner yn agos at leoliad daearyddol myfyriwr neu’n agosach na’r ysgol a ddyrannwyd iddynt, efallai na fydd bob amser yn bosibl eu lleoli yno. Efallai y bydd gofyn i fyfyrwyr deithio hyd at awr, fel sy'n wir am bob darpar athro.

Mae’n bwysig iawn nodi nad yw’r Ail Brofiad Ysgol yn drefniant quid pro quo lle mae lleoliadau’n cael eu ‘cyfnewid’.

Bydd myfyrwyr yn astudio amrywiaeth o ddeunyddiau rhyngweithiol ar-lein trwy wefan Y Brifysgol Agored. Nid darllen yn unig mohono! Bydd deunyddiau fideo pwrpasol i’w gwylio a gweithgareddau i’w cwblhau wrth fynd yn eu blaenau. Byddwn yn darparu cynllunydd astudio defnyddiol i helpu i gadw astudiaethau ar y trywydd iawn.

Bydd gan fyfyrwyr fynediad i safle pwnc sy'n rhoi trosolwg o'r TAR a safle modiwlau i gael mynediad at ddeunyddiau dysgu, sesiynau addysgu ar-lein a'r fforymau trafod. Byddant yn gallu estyn allan at ddarpar athrawon eraill ledled Cymru i rannu profiadau.

Bydd myfyrwyr yn mynychu seminarau byw ar-lein gyda thiwtor Y Brifysgol Agored gyda’r nos ac yn dysgu ochr yn ochr â chyfoedion ledled Cymru, felly bydd angen cyfrifiadur a chysylltiad rhyngrwyd teilwng arnynt. Bydd disgwyl i fyfyrwyr fod â lefel uchel o bresenoldeb mewn sesiynau ar-lein. Fel arfer cynhelir sesiynau pwnc neu gyfnod bob pythefnos, ond mae yna hefyd sesiynau dysgu eraill y bydd angen iddynt eu mynychu o bryd i'w gilydd.