You are here

  1. Hafan
  2. Ein gwaith
  3. Partneriaeth AGA Y Brifysgol Agored
  4. Y llwybr rhan-amser

Y llwybr rhan-amser

Mae’r opsiwn rhan-amser ar gael ar y llwybr cynradd a’r llwybr uwchradd mewn Gwyddoniaeth, Mathemateg, Cymraeg, Saesneg, Saesneg gyda Drama, Saesneg gyda’r Cyfryngau, Ddylunio a Thecnoleg neu Chyfrifiadura/TGCh. 

Mae’r deiagram hwn yn amlinellu nodweddion allweddol y llwybr hwn 

Rhaid i ysgolion wneud cais am statws Ysgol Bartner er mwyn gallu cynnig y llwybr rhan-amser.

Gwnewch gais i ddod yn ysgol bartner

Amlinellir ymrwymiadau Ysgolion Bartner yma.

Bydd myfyrwyr yn gweithio tuag at Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) gyda SAC dros ddwy flynedd.

Byddant yn gweithio tuag at 60 credyd ar Lefel 6 (sy'n cyfateb i flwyddyn olaf gradd israddedig) ym mlwyddyn 1. Ym mlwyddyn 2 byddant yn gweithio tuag at 60 credyd ar Lefel 7 (lefel Meistr).

Mae hwn yn gwrs dysgu o bell ac mae digon o gefnogaeth ar gael. Mae’r ddarpariaeth academaidd yn gyfuniad o ddeunyddiau astudio ar-lein a sesiynau seminar byw ar-lein gyda Thiwtor Cwricwlwm, a fydd yn arbenigwr yn eu dewis faes. Bydd mentor yn yr ysgol yn rhoi cymorth a chyngor ymarferol.

Bydd myfyrwyr yn defnyddio ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) i gael mynediad at gynnwys modiwlau fel gwerslyfrau, fideo a sain, ac ymarfer gweithgareddau dysgu. Dyma lle byddant hefyd yn gallu rhyngweithio â thiwtoriaid a myfyrwyr eraill trwy fforymau ar-lein.

Hefyd, byddant yn gallu cysylltu â’n Tîm TAR Cymru ymroddedig a all ddarparu cymorth ac arweiniad trwy gydol eu hastudiaethau. 

Ar gyfer y rhai sy’n newid gyrfa ac sydd eisiau bod yn athro ond nad ydynt yn gweithio mewn ysgol, neu nad yw’r llwybr cyflogedig yn addas iddyn nhw, mae opsiwn rhan-amser ar gael. Mae'r llwybr hwn yn cynnig rhywfaint o hyblygrwydd gan y bydd myfyrwyr yn astudio tuag at y TAR, ac yn cael profiad addysgu ymarferol rhan-amser mewn ysgol, wrth weithio o gwmpas swydd ran-amser neu ymrwymiadau bywyd eraill. Bydd angen iddynt ystyried a chynllunio ar gyfer sut i gyflawni'r ymrwymiad o 2 i 3 diwrnod o ymarfer dysgu a thua 16 awr o astudio yr wythnos trwy gydol y rhaglen. Mae’r llwybr hwn yn hunan-ariannu, neu gall ymgeiswyr wneud cais am fenthyciad myfyriwr a grantiau cynhaliaeth rhan-amser i helpu gyda’r costau.

Mae’r llwybr rhan-amser yn debyg i ddull TAR mwy ‘traddodiadol’ gan fod y darpar athro yn profi dull astudio olynol. Mae hyn yn golygu y byddant yn treulio tua 2 i 3 diwrnod yr wythnos yn astudio ar gyfer y TAR. Weithiau bydd hynny'n golygu astudio ar-lein, ac ar adegau eraill, byddant yn yr ysgol. Bydd myfyrwyr yn cael sesiynau seminar ar-lein rheolaidd gyda Thiwtor Cwricwlwm Y Brifysgol Agored. Fel arfer cynhelir y rhain gyda'r nos. O fewn pob modiwl, mae ‘ffenestr’ o amser lle bydd angen iddynt fynd i’r ysgol am 2 i 3 diwrnod yr wythnos (mae hyn yn cynyddu wrth i’r rhaglen fynd yn ei blaen). Mae gan bob modiwl isafswm o ddiwrnodau y mae'n rhaid eu cwblhau. Dylai myfyrwyr ddisgwyl bod ar gael am hyd at 3 diwrnod llawn yr wythnos yn ystod cyfnodau lleoliad hirach. Bydd disgwyl iddynt ddilyn yr un drefn ag athrawon eraill yr ysgol – cyrraedd/gadael ar yr un pryd â staff. Nid yw’n bosibl i fyfyrwyr gwblhau eu hamser mewn sesiynau llai na diwrnod llawn.

Mae darpar athrawon i gyd yn treulio amser yn dysgu mewn lleoliad ysgol, a elwir yn ‘Ymarfer Dysgu’. Mae hwn yn rhan annatod o unrhyw gymhwyster TAR yng Nghymru a rhaid iddo fodloni rheolau achredu a nodir gan Gyngor y Gweithlu Addysg a Llywodraeth Cymru. Mae enghreifftiau yn cynnwys:

  • Y gofyniad statudol i ymgymryd â 120 diwrnod o brofiad ysgol
  • Profiad mewn dau leoliad ysgol gwahanol
  • Addysgu ar draws y cyfnodau oedran

Tra bydd y myfyrwyr yn yr ysgol, byddant yn ymgymryd â gweithgareddau ymarfer dysgu, wedi'u cynllunio i bontio eu hastudiaethau modiwl a'u profiadau ymarfer dysgu.

Mae Ymarfer Dysgu yn digwydd mewn lleoliad ysgol, wedi'i gefnogi gan raglen o gefnogaeth mentor sy'n cymryd agwedd raddedig at ddatblygu addysgu.

Mae yna dri phrofiad ymarfer dysgu sy’n gyfateb i 60 diwrnod y flwyddyn. Ym mlwyddyn un, mae'r cyfnodau lleoliad yn hyblyg a gellir cymryd y dyddiau fel bloc neu fel 2 i 3 diwrnod yr wythnos. Bydd angen i fyfyrwyr drafod hyn gyda'r ysgol leoliad.

Cofiwch po fwyaf o ddyddiau lleoliad yn y modiwl, y mwyaf tebygol yw hi y bydd angen i'r myfyrwyr gwblhau tua 3 diwrnod yr wythnos.

Ym mlwyddyn 2, rhaid cymryd o leiaf 30 o’r 60 diwrnod fel bloc parhaus, er mwyn i’r myfyrwyr allu dechrau paratoi ar gyfer prysurdeb bywyd fel athro cymwysedig! Mae cyfnodau ymarfer dysgu yn gontinwwm sy’n symud o ymarfer dan oruchwyliaeth yn y flwyddyn gyntaf i ymarfer annibynnol yn yr ail flwyddyn.

Bydd myfyrwyr yn astudio amrywiaeth o ddeunyddiau rhyngweithiol ar-lein trwy wefan Y Brifysgol Agored. Nid darllen yn unig mohono! Bydd deunyddiau fideo pwrpasol i’w gwylio a gweithgareddau i’w cwblhau wrth fynd yn eu blaenau. Byddwn yn darparu cynllunydd astudio defnyddiol i helpu i gadw astudiaethau ar y trywydd iawn.

Bydd gan fyfyrwyr fynediad i safle pwnc sy'n rhoi trosolwg o'r TAR a safle modiwlau i gael mynediad at ddeunyddiau dysgu, sesiynau addysgu ar-lein a'r fforymau trafod. Byddant yn gallu estyn allan at ddarpar athrawon eraill ledled Cymru i rannu profiadau.

Bydd myfyrwyr yn mynychu seminarau byw ar-lein gyda thiwtor Y Brifysgol Agored gyda’r nos ac yn dysgu ochr yn ochr â chyfoedion ledled Cymru, felly bydd angen cyfrifiadur a chysylltiad rhyngrwyd digonol arnynt. Bydd disgwyl i fyfyrwyr fod â lefel uchel o bresenoldeb mewn sesiynau ar-lein. Fel arfer cynhelir sesiynau pwnc neu gyfnod bob pythefnos, ond mae yna hefyd sesiynau dysgu eraill y bydd angen iddynt eu mynychu o bryd i'w gilydd.