Atebion i’ch cwestiynau
Sut beth yw astudio gyda'r Brifysgol Agored?
Byddwch yn medru astudio o adref, yn yr ysgol, neu le bynnag fynnoch chi. Byddwch yn defnyddio ein Hamgylchedd Dysgu Rhith i gael mynediad gynnwys modiwl fel gwerslyfrau, fideo a sain, gweithgareddau ymarfer dysgu. Yma, gallwch hefyd rhyngweithio gyda thiwtoriaid a myfyrwyr eraill drwy fforymau ar-lein.
A fyddaf yn cael cymorth?
Mae’r rhaglen TAR Cymru gyda'r Brifysgol Agored yn cynnwys dysgu o bell, ac mae llawer o gymorth ar gael. Byddwch yn cael Tiwtor Cwricwlwm a fydd yn arbenigo yn eich maes dewisol chi, a byddwch yn cael cymorth a chyngor ymarferol gan fentor yn yr ysgol.
Hefyd, byddwch yn medru siarad gyda'n Tîm Cymorth Myfyrwyr ymrwymedig a all roi help ac arweiniad ichi drwy gydol eich astudiaethau. Ni fyddwch ar eich pen eich hun.
Ble gallaf ganfod mwy o wybodaeth am y cymhwyster TAR?
Dewch o hyd i
ddisgrifiad llawn ar dudalennau TAR Cymru ar ein gwefan
Sut allai wneud cais?
I wneud cais am ein rhaglen, cwblhewch y
ffurflen gais hon. Gweler y ddogfen
Canllaw Gwneud Cais am help i gwblhau'r ffurflen.
Beth yw’r gofynion mynediad?
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y
gofynion mynediad, ewch i dudalennau TAR yng Nghymru ar ein gwefan.
Ble ga i fwy o wybodaeth am y llwybr cyflogedig?
Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am y
llwybr cyflogedig ar wefan y Brifysgol Agored yng Nghymru.
Ble ga i fwy o wybodaeth am y llwybr rhan-amser?
Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am y
llwybr rhan-amser ar wefan y Brifysgol Agored yng Nghymru.
Sut mae fy ysgol yn dod yn bartner?
I ganfod sut y gall eich ysgol ddod yn ysgol bartner TAR ewch i’n tudalen
Partneriaeth Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) Y Brifysgol Agored i weld sut allai’ch ysgol chi ddod yn ysgol bartner TAR.
Am wybodaeth bellach, ewch i’n
Cwestiynau Cyffredin os gwelwch yn dda.