Addysg
Os hoffech ddilyn gyrfa mewn addysg gyda phlant rhwng 3-11 oed neu gymryd y camau cyntaf i ddod yn athro cynradd, mae dewis cwrs addysg y Brifysgol Agored yn ddewis rhwydd.
Pam astudio Addysg gyda'r Brifysgol Agored?
Byddwch yn ennill sylfaen astudio gadarn sy'n berthnasol i ystod o swyddi yn y byd addysg. Mae ein cyrsiau addysg gynradd yn addas os ydych yn gweithio, gwirfoddoli neu'n ceisio gwaith mewn ysgolion neu yn y sector addysg ehangach.
Dyma fanteision astudio cymhwyster addysg gyda ni:
- Byddwch yn cydweithio â myfyrwyr eraill ac yn dadlau am addysg a dysg ledled y byd.
- Bydd eich dysg ynglŷn ag addysg ysgol gynradd yn seiliedig ar ymarfer.
- Gallwch gael lle ar gwrs TAR/PGDE gan fod y rhan fwyaf o ddarparwyr Addysg Bellach yn ystyried y BA (Anrh) Astudiaethau Addysg (Cynradd) yn addas.
- Gellir strwythuro ein hastudiaeth hyblyg o gwmpas eich gwaith ac ymrwymiadau eraill.
Gyrfaoedd mewn Addysg
Bydd ein cymwysterau addysg yn rhoi sylfaen i chi ar gyfer ystod o rolau yn gysylltiedig ag addysg gynradd, gan gynnwys eich helpu chi i baratoi i wneud cais am hyfforddiant athrawon. Maent hefyd yn berthnasol i yrfaoedd eraill o fewn gofal plant, iechyd, addysg, gwaith chwarae a gweithio gyda theuluoedd a phobl ifanc.
Gall ein cyrsiau addysg eich helpu chi i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa fel:
- athro ysgol gynradd
- cynorthwyydd addysgu
- gweithiwr chwarae
- rheolwr canolfan plant.