Amgylchedd
A ydych yn awyddus i ddeall yn well y berthynas rhwng dynoliaeth â'r amgylchedd naturiol? Neu a hoffech ddatblygu'ch gallu i weithio gydag eraill i fynd i'r afael â heriau byd-eang brys, megis gwrthdaro a thlodi? Os felly, mae astudio cwrs amgylchedd gyda'r Brifysgol Agored yn ddewis doeth.
Pam astudio'r Amgylchedd gyda'r Brifysgol Agored?
Mae deunyddiau ein cwrs wedi'u seilio'n uniongyrchol ar ein hymchwil - yng nghanlyniadau'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf, aseswyd 69% o'n hymchwil astudiaethau datblygu a 76% o'n hymchwil astudiaethau daearyddiaeth ac amgylcheddol yn flaenllaw neu'n rhagorol yn rhyngwladol.
Astudiwch yr amgylchedd gyda ni, a byddwch yn elwa o:
- Gyfuniad o gyrsiau rhyngddisgyblaethol a chyrsiau mwy arbenigol i gyd-fynd â gwahanol gefndiroedd.
- Y cyfle i gymryd rhan mewn ysgolion maes preswyl a gwaith maes rhithwir.
- Cyswllt rheolaidd gyda'ch tiwtor a'n tîm cefnogi myfyrwyr, sydd yno i'ch cefnogi ar eich taith dysgu.
- Cyrsiau sy'n torri tir newydd, yn hygyrch i bawb ac yn cael eu cydnabod fel y cyfryw gan gyflogwyr a chyrff proffesiynol.
Gyrfaoedd yn y maes Amgylchedd
Mae materion sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd yn effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau - o benderfyniadau lleol ynglŷn â rheoli gwastraff i heriau byd-eang newid yn yr hinsawdd. Mae cyflogwyr yn chwilio yn fwyfwy am bobl sydd â'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen i aros ar flaen y maes hanfodol a hynod newidiol hwn.
Mae rhai enghreifftiau o feysydd gyrfa yn y byd amgylchedd yn cynnwys:
- polisi amgylcheddol a/neu ymgynghoriaeth
- cadwraeth natur
- rheolaeth ynni
- rheolaeth llygredd.