Athroniaeth
Mae astudio cwrs athroniaeth yn y Brifysgol Agored yn golygu gwneud athroniaeth. Yn ymarferol, mae hynny'n golygu deall materion a dadleuon athronyddol, cymryd ystyriaeth o safbwyntiau gwrthwynebol, cyfathrebu syniadau cymhleth yn glir a manwl gywir, wrth ddatblygu eich safbwyntiau eich hun.
Pam astudio Athroniaeth gyda'r Brifysgol Agored?
Mae athroniaeth yn ceisio mynd i'r afael â chwestiynau sylfaenol amdanom ni ein hunain a'r byd yr ydym yn preswylio ynddo, drwy ymholiad a dadl resymol. Mae prif bynciau athroniaeth yn cynnwys moeseg, gwleidyddiaeth, y meddwl dynol, celf, crefydd a gwyddoniaeth.
Dyma fanteision astudio athroniaeth gyda ni:
- Yr hyblygrwydd i gyfuno'ch astudiaeth o athroniaeth gyda gwleidyddiaeth, economeg, seicoleg, astudiaethau crefyddol, a nifer o bynciau'r celfyddydau a'r dyniaethau.
- Deunyddiau astudio uchel eu parch sy'n mynd i'r afael â'r cwestiynau heriol mewn modd difyr a hygyrch.
- Cyfleoedd i fireinio'ch sgiliau cyfathrebu, dadansoddi a meddwl yn feirniadol, wrth ymgysylltu â chwestiynau dadleuol a safbwyntiau cyferbyniol.
- Addysgu sy'n seiliedig yn uniongyrchol ar ein hymchwil sydd â chydnabyddiaeth ryngwladol.
Gyrfaoedd mewn Athroniaeth
Mae'r ddisgyblaeth athroniaeth yn uchel ei pharch ymhlith cyflogwyr gan eu bod yn gwerthfawrogi sgiliau cyfathrebu graddedigion, eu gallu i feddwl yn glir am faterion haniaethol ac ymarferol, a'r sgiliau sy'n rhan angenrheidiol o wneud penderfyniadau yn effeithiol.
Gall ein hystod o gyrsiau mewn athroniaeth eich helpu chi i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa fel:
- newyddiadurwr
- rheolwr cyfrif hysbysebu
- gweithiwr cymdeithasol
- rheolwr busnes.