England.  Change location

Cerddoriaeth

P'un a ydych yn awyddus i astudio ar gyfer eich proffesiwn neu er eich diddordeb personol, mae ein cyrsiau cerddoriaeth yn cynnig cyfle i chi ddysgu sut caiff cerddoriaeth ei chreu, astudio ystod eang o arddulliau, a datgloi eich creadigrwydd eich hun.

Pam astudio Cerddoriaeth gyda'r Brifysgol Agored?

Cydnabyddir ein modiwlau cerddoriaeth a'n deunyddiau dysgu ymhlith y gorau yn y wlad. Cynigant astudiaeth fanwl a chyfredol o gyfoeth o arddulliau cerddorol, cyfnodau hanesyddol a themâu, yn amrywio o'r canoloesol i sgoriau ffilmiau modern.

Dyma fanteision astudio cerddoriaeth gyda ni:

  • Dim gofynion mynediad academaidd, megis Cerddoriaeth Lefel A neu hanes o lwyddo mewn arholiadau perfformio cerddoriaeth - rydym yn croesawu myfyrwyr o ystod o brofiadau.
  • Y cyfle i ddatblygu sgiliau cerddoriaeth a pherfformio ymarferol yn Trinity Laban Conservatoire of Music and Dance.
  • Deunyddiau'r cwrs wedi'u paratoi gan arbenigwyr blaenllaw mewn cerddoriaeth Ewropeaidd, ethnogerddoleg, cerddoriaeth a diwinyddiaeth, technoleg cerddoriaeth, a cherddoriaeth ffilmiau.
  • Ymchwil cerddoriaeth wedi'i sgorio yn gydradd gyntaf yn nadansoddiad The Guardian o Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014.

Gyrfaoedd yn y maes Cerddoriaeth

Mae ehangder yr astudio, yr ystod o repertoire cerddorol a'r arfer yr archwilir, ynghyd â meddwl a chyfathrebu clir, yn gwneud ein cyrsiau cerddoriaeth yn berthnasol i ystod eang o yrfaoedd, gan gynnwys:

  • athro/awes cerddoriaeth
  • gweinyddwr y celfyddydau
  • recordydd sain
  • trefnydd digwyddiadau.

Archwilio cyrsiau Cerddoriaeth