Cyfrifiadura a TG
Dysgwch am y technolegau diweddaraf a sut i'w defnyddio nhw gyda chwrs cyfrifiadura a TG achrededig proffesiynol gan y Brifysgol Agored. Mae sgiliau cyfrifiadura a TG wedi dod yn rhan allweddol o'r ffordd yr ydym yn byw, gweithio, cymdeithasu a chwarae; gallant agor y drws i fyd technoleg a llu o gyfleoedd gyrfa cyffrous.
Pam astudio Cyfrifiadura a TG gyda'r Brifysgol Agored?
Mae ein hymchwil arloesol, yn amrywio o seiberddiogelwch i gymwysiadau rhithwir, yn golygu bod ein haddysgu yn seiliedig ar y datblygiadau technolegol diweddaraf.
Gall astudiaeth Cyfrifiadura a TG y Brifysgol Agored gynnig:
- Cymwysterau y mae eu hansawdd wedi'i sicrhau gan Rwydwaith Sicrhau Ansawdd Ewrop er Addysg Wybodeg (EQANIE).
- Modiwlau Technegydd Rhwydweithio Mynediad Ardystiedig Cisco (CCENT), yn darparu achrediad mynediad amhrisiadwy i'r proffesiwn peirianneg rhwydweithio.
- Graddau anrhydedd wedi'u hachredu gan BCS, y Sefydliad TG Achrededig, sydd wedi derbyn y lefelau uchaf o gydnabyddiaeth yn y pedwar cylchred achredu diwethaf.
Gyrfaoedd mewn Cyfrifiadura a TG
Mae Cyfrifiadura a TG yn sector cyflogaeth sy'n tyfu'n gyflym, ac mae'r Deyrnas Unedig wedi'i chydnabod yn arweinydd byd-eang o ran cynhyrchu graddedigion dawnus. Gallech ddatblygu'ch sgiliau a'ch gwybodaeth yn y maes cyflogaeth allweddol hwn y mae angen ymgeiswyr medrus arno. Mae cyflogwyr yn parchu graddedigion cyfrifiadura a TG y Brifysgol Agored am eu huchelgais, rheolaeth amser a sgiliau trefnu.
Gallech ddechrau eich gyrfa mewn:
- gweinyddiaeth cronfeydd data
- deallusrwydd/dadansoddeg busnes
- rhaglennu neu ddatblygu cymwysiadau
- datblygu'r we.