Daearyddiaeth
P'un a ydych yn awyddus i ennill persbectif newydd ar y ffordd yr ydym yn deall ac ymateb i heriau amgylcheddol sylweddol ein cyfnod, neu eisiau datblygu'ch gyrfa, gallwch gyflawni eich nod drwy astudio cwrs daearyddiaeth gyda'r Brifysgol Agored.
Pam astudio Daearyddiaeth gyda'r Brifysgol Agored?
Mae gan Adran Ddaearyddiaeth y Brifysgol Agored gefndir o gynhyrchu ymchwil ac addysg arloesol. Yn y gweithgaredd Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf, dywedwyd bod 75% o'n hymchwil yn flaenllaw neu wedi'i gydnabod yn rhyngwladol o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd neu fanwl gywirdeb.
Manteision astudio daearyddiaeth gyda ni:
- Mae ein cyrsiau a chymwysterau yn defnyddio meddwl blaenllaw i fynd i'r afael â materion cymdeithasol ac amgylcheddol cyfredol a rhai newydd, gan aros yn hygyrch i'r rheiny sy'n newydd i astudio Daearyddiaeth.
- Bydd gennych yr opsiwn i ddysgu o gyfoeth o lefydd a sefyllfaoedd penodol, gyda'r opsiwn i ymgymryd â gwaith maes rhithwir a phreswyl.
- Cyswllt rheolaidd gyda'ch tiwtor a'n tîm cefnogi myfyrwyr, sydd yno i'ch cefnogi ar eich taith dysgu.
- Cyrsiau sy'n hygyrch i bawb ac yn cael eu cydnabod fel y cyfryw gan gyflogwyr a chyrff proffesiynol.
Gyrfaoedd mewn Daearyddiaeth
Yn wyneb heriau cymdeithasol ac amgylcheddol byd-eang cynyddol, mae sgil a gwybodaeth graddedigion daearyddiaeth yn dod yn fwyfwy gwerthfawr i sefydliadau sy'n awyddus i addasu i ffyrdd newydd o weithio.
Gall ein hystod o gyrsiau eich helpu chi i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa yn y meysydd canlynol:
- llywodraeth leol a chanolog
- athro ysgol uwchradd
- ymgynghoriaeth amgylcheddol
- diwydiannau effeithlon o ran ynni
- trafnidiaeth a logisteg.