England.  Change location

Dylunio

A oes gennych chi ddiddordeb mewn prosesu a chymhwyso dylunio ac arloesedd yn y byd go iawn? Bydd cyrsiau dylunio'r Brifysgol Agored yn datblygu eich ffordd o feddwl dylunio creadigol a gwaith ymarferol i fynd i'r afael â phroblemau ym mhob agwedd ar fywyd.

Pam astudio Dylunio gyda'r Brifysgol Agored?

Wrth astudio ein modiwlau dylunio, byddai eich dysg yn cynnwys stiwdios dylunio ar-lein, rhwydweithio cymdeithasol a deunyddiau astudio ysbrydoledig ynghyd â chydran ymarferol sylweddol. Yn ogystal ag astudio dylunio, byddwch fel arfer yn astudio pwnc arall cysylltiedig.

Dyma fanteision astudio cymhwyster dylunio gyda ni:

  • Nid oes angen portffolio arnoch i ddechrau cwrs dylunio gyda ni.
  • Mae gan ein graddau gydnabyddiaeth broffesiynol.
  • Gallwch ddysgu am nifer o arbenigeddau dylunio gwahanol.
  • Gallwch gyfuno astudio dylunio gyda phynciau eraill i gyd-fynd â'ch anghenion neu ddiddordebau.

Gyrfaoedd Dylunio

Mae dylunio ac arloesedd yn chwarae rôl ganolog mewn cymdeithas, yn cynhyrchu datrysiadau i broblemau ym mhob agwedd ar ein bywydau, nid yn unig yn y diwydiannau creadigol. Gall dull gweithredu dylunio ac arloesedd ddod â gwerth i bron unrhyw weithgaredd. Fel myfyriwr y Brifysgol Agored, gallwch roi eich dysg ar waith wrth i chi astudio.

Gall ein cyrsiau dylunio eich helpu chi i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa fel:

  • dylunydd cynnyrch
  • ymgynghorydd dylunio
  • rheolwr ymchwil a datblygu
  • newyddiadurwr technegol.

Archwilio cyrsiau Dylunio