Ffiseg
Archwiliwch y graddfeydd lleiaf a'r mwyaf o'r Bydysawd gyda chwrs ffiseg yn y Brifysgol Agored. Mae ein hymchwil a'n haddysgu blaenllaw yn sail i'ch dysg - cyfoethogwch eich datblygiad deallusol a phersonol gyda ni ac atgyfnerthwch eich opsiynau gyrfa.
Pam astudio Ffiseg gyda'r Brifysgol Agored?
Ymunwch ag unig ddarparwr addysg uwch o bell y DU sy'n gallu datblygu sgiliau arbrofol cynhwysfawr gan ddefnyddio adnoddau ac asedau ar-lein. Byddwch yn gallu astudio ar eich liwt eich hun ac i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau eraill mewn bywyd, a byddwch yn elwa o'n dulliau addysgu arloesol. Yn ogystal, mae'r radd Ffiseg wedi ei hachredu gan y Sefydliad Ffiseg.
Cewch fynediad at:
- Y Labordai OpenSTEM ar-lein hynod lwyddiannus, i ddatblygu'ch sgiliau ymchwilio a labordy gydag arbrofion o bell y gallwch chi eu rheoli ar-lein.
- Gwaith labordy ymarferol opsiynol mewn ffiseg, a gynhelir ar ein campws Milton Keynes.
- Detholiad o seminarau a darlithoedd yn ymdrin ag ehangder y gwaith ymchwil mewn ffiseg a gynigir gan yr Ysgol Gwyddorau Ffiseg.
Gyrfaoedd mewn Ffiseg
Mae pobl gyda chymwysterau ffiseg mewn sefyllfa dda i gael swyddi gwyddonol ac anwyddonol. Mae'r agwedd resymegol sydd ei hangen ar gyfer astudio ffiseg yn berthnasol i ystod eang o sectorau cyflogaeth. Am y rheswm hwn, mae galw mawr am raddedigion ffiseg - yn arbennig y rheiny sy'n meddu ar sgiliau cyfathrebu effeithiol a rhyngbersonol.
Gallai cymhwyster ffiseg gan y Brifysgol Agored eich helpu chi i ddechrau gyrfa mewn:
- addysgu
- ymchwil ac ymchwiliad gwyddonol
- dadansoddi a diagnosteg
- rheoli gwybodaeth
- dylunio a datblygu cynnyrch.