England.  Change location

Gwaith Cymdeithasol

Mae gweithwyr cymdeithasol yn cefnogi a gwarchod pobl fwyaf difreintiedig a bregus cymdeithas. Os ydych yn awyddus i weithio gyda'r rheiny sydd mewn angen, o blant a'r henoed, i unigolion neu deuluoedd, mae ein cyrsiau gwaith cymdeithasol a chyrsiau cysylltiedig yn cynnig llwybr i'r proffesiwn.

Pam astudio Gwaith Cymdeithasol gyda'r Brifysgol Agored?

Ers dros 30 mlynedd rydym wedi bod yn cyflwyno dysg o bell cynaledig, agored yn paratoi myfyrwyr at y profiad heriol, ond gwerth chweil, o ddod yn weithwyr cymdeithasol. Byddwch yn astudio cwricwlwm wedi'i ddatblygu gan academyddion a phobl broffesiynol blaenllaw sy'n rhan weithredol o'r maes, felly rydych chi'n gwybod bod ein haddysgu yn adlewyrchu blaenoriaethau cyflogwyr heddiw.

Dyma fanteision astudio gwaith cymdeithasol gyda ni:

  • Y Brifysgol Agored yw darparwr gradd gymhwyso ran-amser mewn gwaith cymdeithasol mwyaf y DU.
  • Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda chyflogwyr, gan gynnwys y GIG, gwasanaethau cymdeithasol a'r sector gwirfoddol.
  • Ennill cyflog wrth ddysgu. Mae ein hastudiaeth hyblyg yn cyd-fynd â'ch gwaith a bywyd gartref, felly nid oes rhaid i chi roi'r gorau i'ch swydd. Yn ogystal, gallwch ddatblygu ar wahanol gyflymder i weddu i'ch anghenion ac anghenion eich cyflogwr.
  • Mae gennym gyrsiau ar gyfer bob lefel a chamau o'ch gyrfa. Perffaith os ydych yn dechrau arni neu'n newid cyfeiriad, yn datblygu eich gyrfa mewn gofal, neu'n awyddus i ddatblygu'ch dealltwriaeth o ofal cymdeithasol.

Gyrfaoedd mewn Gwaith Cymdeithasol

Mae astudio am gymhwyster y Brifysgol Agored mewn gwaith cymdeithasol yn baratoad delfrydol ar gyfer datblygiad personol neu wella gyrfa, beth bynnag yw eich lefel profiad. Rydym yn cynnig ystod eang o gyrsiau yn seiliedig ar ymarfer, gan gynnwys modiwlau unigol ar gyfer datblygiad proffesiynol, rhaglenni cymhwyso ac ôl-gymhwyso, hyfforddiant galwedigaethol, graddau israddedig ac ôl-raddedig a chyfleoedd ymchwil.

Gall ein hystod o gyrsiau mewn gwaith cymdeithasol eich helpu chi i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa fel:

  • gweithiwr cymdeithasol neu ieuenctid
  • cwnselydd
  • swyddog prawf
  • gweithiwr datblygu cymunedol.

Archwilio cyrsiau Gwaith Cymdeithasol