England.  Change location

Gwleidyddiaeth

P'un a ydych yn awyddus i gael dealltwriaeth well o'r broses gwneud penderfyniadau sydd wrth wraidd y penawdau neu eisiau datblygu'r sgiliau dadansoddi a gwybodaeth am y systemau byd-eang sy'n dod law yn llaw ag astudio gwleidyddiaeth, mae gennym ni'r cymhwyster cywir i chi.

Pam astudio Gwleidyddiaeth gyda'r Brifysgol Agored?

Mae'r tîm Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol yn y Brifysgol Agored yn hynod brofiadol yn agor pynciau sy'n ymddangos yn anhygyrch a'u cyfathrebu'n glir. Rydym yn cydweithio yn rheolaidd â'r BBC i ddarparu rhaglenni radio a theledu arloesol ac addysgiadol, ac mae ein cyrsiau yn ddifyr ac archwiliadol.

Astudiwch wleidyddiaeth gyda'r Brifysgol Agored i:

  • Ennill mewnwelediad i ddadleuon sy'n dominyddu'r newyddion a dealltwriaeth i'r materion sydd wrth wraidd iddynt.
  • Derbyn addysg gan aelodau'r gyfadran sy'n ymroddedig i agenda arloesol mewn goruchwylio addysgu ac ymchwil.
  • Archwilio sut mae polisïau yn cael eu cynhyrchu mewn egwyddor a'u rhoi dan brawf yn ymarferol.
  • Gwella eich cyflogadwyedd ar draws y sectorau preifat a chyhoeddus.

Gyrfaoedd mewn Gwleidyddiaeth

Mae dealltwriaeth o wleidyddiaeth yn ganolog i wybodaeth o sut mae cymdeithasau modern yn cael eu trefnu a'u llywodraethu. Bydd astudio gwleidyddiaeth yn rhoi cyfuniad o sgiliau i chi y mae galw mawr amdanynt ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus a'r sectorau nad ydynt er elw.

Mae rhai o'r cyflogwyr y mae graddedigion gwleidyddiaeth yn mynd ymlaen i weithio iddynt yn cynnwys:

  • llywodraeth leol a chenedlaethol
  • elusennau
  • cwmnïau cyfreithwyr
  • sefydliadau'r cyfryngau.

Archwilio cyrsiau Gwleidyddiaeth