England.  Change location

Gwyddoniaeth

Atgyfnerthwch eich dealltwriaeth o'r byd gyda chwrs gwyddoniaeth yn y Brifysgol Agored. Gallwch arbenigo mewn seryddiaeth a gwyddor planedau, bioleg, cemeg, gwyddorau daear, gwyddoniaeth amgylcheddol, neu wyddorau iechyd. Felly, beth bynnag yw eich diddordebau, bydd cymhwyster i'ch herio a'ch gwobrwyo.

Pam astudio Gwyddoniaeth gyda'r Brifysgol Agored?

P'un a ydych yn dewis ystod eang o bynciau gwyddoniaeth, neu arbenigo yn eich astudiaeth, bydd gennych y cyfle i archwilio ym mha faes mae eich diddordebau gwyddonol. Gyda modiwlau a chymwysterau yn seiliedig ar ein hymchwil gwyddonol ac addysgol ein hunain, rydym yn ymfalchïo yn ein henw da rhyngwladol am addysgu ac ymchwil ar draws nifer o ddisgyblaethau gwyddoniaeth.

Gall y Brifysgol Agored gynnig:

  • Gwaith labordy ymarferol opsiynol mewn cemeg, ffiseg, neu fioleg ac iechyd, a gynhelir ar ein campws Milton Keynes.
  • Nifer o gyrsiau gwyddoniaeth sy'n defnyddio ein labordy hynod lwyddiannus OpenScience, sy'n eich caniatáu chi i gynnal arbrofion o bell ar-lein.
  • Cymwysterau wedi'u hachredu gan gyrff proffesiynol, megis y Sefydliad Ffiseg a'r Gymdeithas Fioleg Frenhinol.
  • Sgiliau trosglwyddadwy sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr.

Gyrfaoedd yn y maes Gwyddoniaeth

Ehangwch eich cyfleoedd gyrfa gydag addysgu o ansawdd uchel a rhan weithredol y Brifysgol Agored mewn rhaglenni ymchwil rhyngwladol. Gyda galw cynyddol ymhlith cyflogwyr am raddedigion medrus a chymwys, gallai hwn fod yn fan cychwyn i'ch gyrfa mewn:

  • addysgu
  • gweinyddiaeth neu reolaeth gwyddoniaeth
  • ymgynghoriaeth dechnegol
  • ymchwil diwydiannol.

Archwilio cyrsiau Gwyddoniaeth