Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Os oes gennych ddiddordeb mewn iechyd a gofal cymdeithasol, rydych wedi dod i'r lle cywir. P'un a hoffech symud i fyny'r ysgol yrfa, neu os oes gennych ddiddordeb personol mewn gofalu am eraill, gall ein cyrsiau iechyd a gofal cymdeithasol eich helpu chi i wneud gwahaniaeth.
Pam astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda'r Brifysgol Agored?
Byddwch yn astudio gydag un o'r darparwyr cyfleoedd addysgol a datrysiadau dysgu mwyaf o ran maint ac arloesedd yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Ers dros 30 mlynedd rydym wedi bod yn cyflwyno dysg o bell cynaledig, agored yn y maes hwn, gan greu deunyddiau uchel eu parch i'w defnyddio ar draws y diwydiant hwn sy'n hynod newidiol.
Dyma fanteision astudio iechyd a gofal cymdeithasol gyda ni:
- Enillwch tra gallwch chi - mae ein hastudiaeth hyblyg wedi'i dylunio i gyd-fynd â'ch gwaith a bywyd gartref.
- Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr, gan gynnwys y GIG, gwasanaethau cymdeithasol a'r sector gwirfoddol, yn darparu cymwysterau sy'n bodloni eu hanghenion newidiol.
- Byddwch yn ennill dealltwriaeth eang o'r arferion, lleoliadau a ffactorau ysbrydoledig amrywiol sy'n ffurfio'r sector hwn ac yn effeithio arno.
- Rydym yn cynnig ystod eang o gyrsiau, beth bynnag yw eich lefel profiad neu ddiddordeb. Dewiswch beth sy'n iawn i chi.
Gyrfaoedd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn newid - mae gofal yn gynyddol gymhleth gyda heriau newydd, gan gynnwys rheoli parhad gofal, cyflyrau hirdymor, adferiad, dementia a gofal diwedd oes. Gall astudio am gymhwyster gyda'r Brifysgol Agored agor cyfleoedd gyrfa i chi yn y sector hwn sy'n tyfu.
Gall ein hystod o gyrsiau mewn iechyd a gofal cymdeithasol eich helpu chi i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa fel
- nyrs gofrestredig neu ymarferydd gofal iechyd
- gweithiwr ieuenctid neu gymdeithasol
- rheolwr gofal cofrestredig
- swyddog elusen.
Cymerwch fantais o'r astudiaeth ran-amser wrth i chi ennill profiad mewn swydd yn y sector. Mae gan astudio iechyd a gofal cymdeithasol gyda'r Brifysgol Agored fodel hyblyg camu ymlaen/camu i ffwrdd sy'n caniatáu dilyniant a datblygiad pan mae'n fwyaf cyfleus i chi.