England.  Change location

Iechyd Meddwl

A oes gennych chi ddiddordeb mewn camu i'r sector iechyd meddwl a gofal cymdeithasol dynamig sy'n newid yn gyflym? Neu a ydych eisoes yn rhan ohono, ac eisiau datblygu'ch gyrfa neu arbenigo ynddi? Yna gall astudio cwrs iechyd meddwl gyda'r Brifysgol Agored eich helpu chi i gyflawni'ch nod.

Pam astudio Iechyd Meddwl gyda'r Brifysgol Agored?

Ers dros 30 mlynedd, mae Ysgol Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol y Brifysgol Agored wedi bod yn cyflwyno dysg o bell cynaledig, agored a datblygu deunyddiau uchel eu parch ar gyfer defnydd amlddisgyblaethol ac aml-broffesiynol. Heddiw, rydym yn un o'r darparwyr cyfleoedd addysgol a datrysiadau dysgu mwyaf a mwyaf arloesol yn y sector hwn.

Mae manteision astudio iechyd meddwl gyda'r Brifysgol Agored yn cynnwys:

  • Cyrsiau wedi'u datblygu a'u harwain gan arbenigwyr blaenllaw yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, gyda ffocws cryf ar drawsffurfio arfer iechyd a gofal cymdeithasol drwy addysg ac ymchwil.
  • Astudiaethau gyda model hyblyg camu ymlaen/camu i ffwrdd sy'n caniatáu dilyniant a datblygiad pan mae'n fwyaf cyfleus i chi.
  • Cefndir cryf mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol cymhwysol, gyda phartneriaid cyllid gan gynnwys Cynghorau Ymchwil (ESRC ac AHRC), a'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd.

Gyrfaoedd mewn Iechyd Meddwl

Bydd astudiaeth yn y maes hwn yn eich paratoi chi am yrfa werth chweil o fewn nyrsio iechyd meddwl neu feysydd cyffelyb. Mae ein statws fel arweinydd blaenllaw mewn dysgu o bell yn golygu, gyda'n cyrsiau ni, y gallwch weithio wrth i chi astudio. Byddwch yn gallu asesu sawl persbectif yn feirniadol a chymhwyso dealltwriaeth newydd yn ymarferol wrth i chi ddatblygu.

Mae swyddi posibl mewn perthynas â'r maes astudio hwn yn cynnwys:

  • nyrs seiciatrig gymunedol
  • nyrs iechyd meddwl fforensig
  • nyrs datblygu practis iechyd meddwl
  • ymarferydd arbenigol mewn iechyd meddwl brys.

Archwilio cyrsiau Iechyd Meddwl