Saesneg
Mae astudio Saesneg yn y Brifysgol Agored yn ffordd gyffrous o ehangu'ch sgiliau a'ch gwybodaeth. Gallwch astudio llenyddiaeth ysgogol o ystod gyffrous o gyfnodau a lleoliadau, dysgu sut mae'r iaith Saesneg yn cael ei defnyddio mewn amrywiaeth o gyd-destunau byd-eang a datblygu'ch sgiliau ysgrifennu creadigol.
Pam astudio Saesneg gyda'r Brifysgol Agored?
Bydd astudio Saesneg yn y Brifysgol Agored yn eich cyflwyno chi i syniadau newydd a ffyrdd o weld a datblygu'ch sgiliau mewn darllen ac ysgrifennu effeithiol a dadansoddi beirniadol.
Byddwch yn elwa o:
- Ddeunyddiau astudio ysgogol ac uchel eu parch yn archwilio llenyddiaeth ac iaith Saesneg mewn ffordd hygyrch a phleserus.
- Addysgu sy'n seiliedig yn uniongyrchol ar ein hymchwil sydd â chydnabyddiaeth ryngwladol.
- Detholiad o gyrsiau Llenyddiaeth ac Iaith Saesneg, gyda'r opsiwn o astudio disgyblaethau eraill hefyd, gan gynnwys ysgrifennu creadigol.
- Rhaglenni sydd wedi'u dylunio i fynd â chi ymlaen mewn bywyd, datblygu'ch rhagolygon gyrfa a dyfnhau mewnwelediadau a gwybodaeth.
- Ymunwch â rhyw 11,000 o fyfyrwyr yn astudio modiwlau a chymwysterau Saesneg y Brifysgol Agored.
Gyrfaoedd mewn Saesneg
Bydd astudio Saesneg yn rhoi cyfuniad hynod hyblyg o sgiliau i chi a all arwain at ystod eang o wahanol alwedigaethau. Mae galw mawr am y priodweddau y byddwch chi'n eu datblygu, megis meddwl yn feirniadol a sgiliau cyfathrebu, ym marchnad swyddi gystadleuol heddiw, ac mae Saesneg yn ddisgyblaeth uchel ei pharch ymhlith cyflogwyr graddedigion.
Gallai cymhwyster y Brifysgol Agored mewn Saesneg arwain at yrfa yn y meysydd canlynol:
- hysbysebu, cysylltiadau cyhoeddus y diwydiannau creadigol
- newyddiaduraeth a chyhoeddi
- cyrff llywodraethol a sefydliadau celfyddydol
- y byd addysg
- adnoddau dynol, gwaith cyfreithiol, bancio, manwerthu
- elusennau ac ymgyrchu.