You are here

  1. Hafan
  2. Astudio
  3. Stori Darren

Stori Darren

Mae Darren yn ysbrydoliaeth o ddifrif i bawb sy’n byw bywydau prysur: magu teulu, gweithio’n llawn amser, ymdopi â chyflwr iechyd, a bod yn hollol benderfynol ei fod eisiau dychwelyd i fyd addysg a gwireddu ei uchelgeisiau.

Dyma sydd gan Darren i’w ddweud am ei daith gyda’r Brifysgol Agored

Roeddwn wedi cwblhau fy addysg uwchradd yn 1999, ac wedi penderfynu ymuno â Lluoedd Arfog ei Mawrhydi yn lle mynd ymlaen i astudio lefelau A a mynd i brifysgol. Ers hynny rwyf wedi gweithio fel barbwr a gan fy mod ar fin cael diagnosis o ankalosing spondylitus, roedd angen newid gyrfa arna i er mwyn gallu gweithio hyd at amser ymddeol.

Felly, ar ôl misoedd o drafod pa lwybr i’w ddilyn, cysylltais â’r Brifysgol Agored yn 2013 i astudio BSc Anrhydedd – Gwyddorau Naturiol ac ar hyn o bryd rwyf hanner ffordd drwy fy ail flwyddyn. Rwy’n mwynhau’r heriau a’r aseiniadau a roddir i mi a’r ffordd y mae’r cwrs hwn yn dyfnhau fy nealltwriaeth o wyddoniaeth a’r byd yr ydym yn byw ynddo.

Rwy’n cael blas ar yr wybodaeth yr wyf yn ei dysgu ac yn mynd ati i astudio bob nos yn eiddgar. Yr her fwyaf yw dod o hyd i’r amser i astudio’n llawn amser, gweithio’n llawn amser a threulio amser gyda fy nheulu.

Rwy’n cael llawer o gymorth gan fy nheulu a fy ffrindiau sy’n rhoi cyfle i mi eistedd ac astudio, gan eu bod yn gwybod cymaint y mae'n ei olygu i mi. Mae gen i bedwar o blant, sydd prin yn cael treulio amser yn fy nghwmni, oherwydd gwaith ac ymrwymiadau’r brifysgol ond rwy’n ddigon ffodus eu bod yn ddigon hen i ddeall bod pwrpas i’r hyn yr wyf yn ei wneud a’i fod er eu budd hwythau hefyd.

Mae fy mhartner hefyd yn fy nghefnogi ac yn danfon a bwydo’r plant i gyd gyda’r nosau i roi cyfle i mi astudio. Mae fy nghyflogwr a fy nghydweithwyr hefyd yn neilltuo amser i fy helpu gyda meysydd nad ydw i’n eu deall ar fy nghwrs.

Heb y gefnogaeth hon byddwn yn cael trafferth cael amser addas i astudio ac weithiau i gwblhau blociau astudio.

Mae gen i well dealltwriaeth o fathemateg o fewn gwyddoniaeth ac rwyf wedi datblygu mwy o wybodaeth am wyddoniaeth yn gyffredinol, yn cynnwys mecaneg cwantwm, biocemeg, cemeg a gwyddoniaeth amgylcheddol.

Rwy’n gobeithio parhau gyda fy astudiaethau i ennill MSc ac yna byddaf yn dechrau fy Noethuriaeth. Rwy’n gobeithio defnyddio fy sgiliau a fy ngwybodaeth i helpu i ddatblygu problemau ynni cynyddol y byd a helpu i leihau allyriadau CO2, gan mai hwn oedd y prif ffocws yn yr astudiaethau a ddewisais.

Mae dysgu gyda’r Brifysgol Agored wedi cael effaith gadarnhaol enfawr ar fy mywyd hyd yma. Rwyf wedi sicrhau swydd technegydd labordy gyda chwmni blaenllaw drwy’r byd yn y diwydiant biosynhwyryddion ym mis Gorffennaf 2014 gan weithio ym maes biocemeg. Roedd yn rhaid i mi gynhyrchu toddiannau byffer a sefydlogion ar gyfer sefydlogi ensymau a sychrewi gwahanol ensymau.

Yn Hydref 2014, gofynnwyd i mi gwblhau gwaith ar brosiect wedi ei ariannu gan grant Innovate UK, a oedd yn cynnwys creu inc argraffu sgrin seiliedig ar ddŵr, yn cynnwys ensym ac yna, cynhyrchu electrod gweithio. Roeddwn wedi cwblhau hyn erbyn y Nadolig gyda chysyniad damcaniaeth wedi ei brofi.

Cefais gydnabyddiaeth lawn am fy ymchwil gan fy nghyd-fyfyrwyr a’r Swyddog Monitro Grantiau. O ganlyniad mae ein chwaer gwmni wedi gofyn i mi ymuno â nhw i wneud gwaith ym maes Gwyddor Defnyddiau ac rwyf wedi cael swydd Darpar Gemegydd Datblygu eleni, gan obeithio dod yn Gemegydd Datblygu erbyn Mehefin 2015.

Hefyd rwyf wedi sicrhau cyllid gan fy nghwmni ar gyfer fy Noethuriaeth unwaith y bydda i wedi gorffen fy MSc.

Mae’r holl ddiolch i’r Brifysgol Agored am y gwaith gwych y mae’n ei wneud, a chynnwys eu cyrsiau. Hoffwn ddiolch i’r Brifysgol Agored o waelod fy nghalon am eich gwaith diflino yn helpu eraill i gyrraedd eu nod.

Darllenwch stori Teresa

Dewch i weld sut mae Teresa wedi goresgyn amrywiaeth o heriau er mwyn cyflawni pethau mawrar daith ddysgu gyda’r Brifysgol Agored