You are here

  1. Hafan
  2. Astudio
  3. Rhaglen Pont i Bawb

Rhaglen Pont i Bawb

Cofrestrwch nawr

Beth yw’r rhaglen Pont i Bawb?

Nyrs o flaen arwydd yr ysbyty

Mae hon yn rhaglen dysgu o bell Cymru gyfan i chi gael y cymwysterau sydd eu hangen arnoch i astudio’r radd BSc mewn Nyrsio neu’r radd BA mewn Gwaith Cymdeithasol gyda ni.*

Mae’r rhaglen Pont i Bawb yn cael ei chyflwyno gan Goleg Caerdydd a’r Fro (CAVC) drwy ddysgu ar-lein, sy’n golygu, yn lle mynychu unrhyw ddosbarthiadau wyneb yn wyneb, gallwch astudio o gartref yn unrhyw le yng Nghymru. Mae hefyd yn golygu y gallwch ddysgu ochr yn ochr â’ch swydd bresennol. Mae wedi’i ariannu’n llawn felly ni fydd yn rhaid ichi dalu unrhyw beth.

Mae'r rhaglen yn dechrau 23 Medi 2024 ac yn dod i ben yr wythnos yn dechrau 20 Ionawr 2025.

Pa gymwysterau fyddaf yn eu cael?

Ar ôl gorffen, bydd gennych gymwysterau Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW) mewn Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol a/neu Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol, gan ddibynnu os ydych yn astudio am un gymhwyster neu’r ddau.

Mae’r cymwysterau hyn yn cyfateb i TGAU Saesneg a Mathemateg gradd C. I wneud cais ar gyfer y gradd BSc mewn Nyrsio neu’r gradd BA mewn Gwaith Cymdeithasol yn y Brifysgol Agored yng Nghymru, byddwch naill ai angen y cymwysterau ESW Lefel 2 mewn sgiliau Rhif a Chyfathrebu neu gymwysterau TGAU Saesneg/Cymraeg a Mathemateg gradd C. Dyma'r gofynion mynediad a osodwyd gan y Brifysgol Agored ar gyfer y ddwy radd broffesiynol, a heb y cymwysterau gofynnol ni fyddwch yn gallu gwneud cais i’r naill gwrs gradd na’r llall**.  

 Gofalwr yn defnyddio iPad

Sut fydd y cymwysterau yn fy helpu yn fy ngyrfa?

Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru a CAVC wedi datblygu’r rhaglen Pont i Bawb i helpu staff cymorth gofal iechyd i gyflawni eu cymwysterau ESW Lefel 2, a mynd ymlaen i astudio’r radd BSc mewn Nyrsio neu’r radd BA mewn Gwaith Cymdeithasol yn y Brifysgol Agored yng Nghymru.

Gall staff cymorth gofal iechyd presennol sy’n awyddus i gwblhau eu cymwysterau ESW Lefel 2 astudio ar gampws coleg Addysg Bellach, ond nawr am y tro cyntaf, mae ESW yn cael ei ddarparu trwy ddysgu o bell rhan amser drwy’r rhaglen Pont i Bawb.

Bydd cwblhau’r radd nyrsio yn y Brifysgol Agored yng Nghymru yn eich gwneud yn gymwys i wneud cais i gofrestru fel nyrs cymwysedig. Ar ôl gorffen y radd gwaith cymdeithasol, gallwch gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel gweithiwr cymdeithasol.

Pam dewis CAVC a’r Brifysgol Agored yng Nghymru?

Y Brifysgol Agored yng Nghymru yw’r arbenigwyr mewn dysgu rhan amser o bell, a nhw yw’r darparwr addysg uwch israddedig rhan amser mwyaf yng Nghymru. Gyda dros 50 mlynedd o brofiad ym maes dysgu ar-lein â chymorth, byddwn yn sicrhau na fyddwch yn teimlo’n rhy ynysig. Byddwch yn cael cymorth rheolaidd gan eich tiwtor, myfyrwyr eraill a’ch tîm cymorth i fyfyrwyr.

Mae’r rhaglen Pont i Bawb, a ddarperir gan CAVC, hefyd yn defnyddio dysgu ar-lein i’ch galluogi i ffitio astudio o amgylch eich bywyd. Bydd yr aseiniadau’n digwydd ar-lein, a bydd gennych diwtor CAVC trwy gydol y rhaglen.

 Menyw mewn cyfarfod ar-lein

Mae cyrsiau ar-lein rhan amser y Brifysgol Agored yn golygu eich bod yn cael dewis ble a phryd i astudio, gan roi’r cyfle i chi ennill cymhwyster heb roi’r gorau i'r hyn sy’n bwysig i chi. P’un a ydych yn gweithio, yn bod yn rhiant, yn gofalu neu’n syml yn mwynhau amser gyda theulu a ffrindiau, mae ein cyrsiau yn ffitio o amgylch eich bywyd.

Felly, ar ôl i chi gwblhau eich cymwysterau ESW Lefel 2 yn llwyddiannus drwy’r rhaglen Pont i Bawb, gallwch ddal ati drwy ymuno â’r Brifysgol Agored yng Nghymru i astudio’n rhan amser ar gyfer eich gradd. Yn y Brifysgol Agored yng Nghymru mae ystod o gymorth hefyd ar gael ar gyfer ffioedd a chyllid gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu rhan amser ac opsiynau talu hyblyg. Dysgwch fwy am ffioedd a chyllid yn y Brifysgol Agored yng Nghymru.

Sut ydw i’n cofrestru i raglen Pont i Bawb?

E-bostiwch OUReferrals@cavc.ac.uk gyda’ch enw llawn, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn a’r cymhwyster ESW lefel 2 yr hoffech astudio ar eu cyfer: Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol, Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol, neu’r ddau.

Cofrestrwch erbyn 6 Medi 2024. Mae'r rhaglen yn dechrau 23 Medi 2024 ac yn dod i ben yr wythnos yn dechrau 20 Ionawr 2025.

Cofrestrwch nawr

*Yn dilyn cwrs gradd llwyddiannus a meini prawf dethol.

**I wneud cais ar gyfer y radd BSc mewn Nyrsio neu'r radd BA mewn Gwaith Cymdeithasol yn y Brifysgol Agored yng Nghymru, bydd angen i chi hefyd fod mewn cyflogaeth ac yn cael cefnogaeth eich cyflogwr.

logo CAVC

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws