Chi sydd yn rheoli eich man cychwyn
Rydym yn agored i bobl ar sail eu potensial yn hytrach na’u cymwysterau blaenorol, ac felly’n wahanol i brifysgolion eraill. Nid oes gan y rhan fwyaf o'n cyrsiau unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ac mae ein myfyrwyr yn dod o ystod amrywiol o gefndiroedd addysgol. Felly, rydym yn cynnig dewis o fannau cychwyn gwahanol yn dibynnu ar ba mor hyderus ydych yn eich sgiliau astudio.
Gallwch naill ai neidio'n syth i mewn yng Ngham 1, neu efallai y byddai'n well gennych ddechrau ysgafnach gyda rhywfaint o waith paratoi ychwanegol. Os felly, mae Modiwl Mynediad yn ddelfrydol ar eich cyfer chi. Mae angen i chi fod yn breswyliwr yn y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Gweriniaeth Iwerddon, neu fod â chyfeiriad Swyddfa’r Post Lluoedd Prydain.
Dysgu o bell, ond ddim ymhell
Ni fyddwch ar eich pen eich hun. Pan fyddwch chi'n astudio Modiwl Mynediad bydd gennych chi:
- Sesiynau tiwtorial un-i-un gyda thiwtor ymroddedig a all deilwra eu dull yn ôl eich anghenion unigol. Cynhelir eich tiwtorialau ffôn personol ar amser sy'n gyfleus i chi, a byddwch yn cael adborth ysgrifenedig ar eich gwaith.
- Tîm Cymorth Myfyrwyr, wedi'i staffio gan ymgynghorwyr arbenigol, sy'n gallu helpu gydag unrhyw faterion sy’n codi pan fyddwch yn astudio gyda ni.
- Y cyfle i rannu syniadau gyda myfyrwyr eraill ar ein fforymau ar-lein.
Dim arholiad
I allu astudio Modiwl Mynediad y cwbl sydd ei angen arnoch yw ffôn a mynediad at gyfrifiadur sydd â chysylltiad rhyngrwyd da. Bydd eich gwaith ar y Modiwl Mynediad yn cael ei asesu trwy bedwar aseiniad ysgrifenedig byr, yn ogystal â rhai gweithgareddau ar-lein.
Ymgorffori datblygu sgiliau
Bydd ein deunyddiau astudio yn datblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch hyder. Maent wedi’u cynllunio’n arbennig i helpu gyda phethau megis:
- Gloywi eich technegau astudio – efallai fod dipyn o amser ers i chi astudio ddiwethaf, neu efallai y byddai'n well gennych chi fynd i'r afael â dysgu ar-lein a dysgu o bell gan gymryd pethau ychydig yn arafach. Beth bynnag fo'ch amgylchiadau, mae Modiwl Mynediad yn baratoad gwych ar gyfer cam nesaf eich taith o fod yn fyfyriwr gyda ni.
- Defnyddio cyfrifiaduron – os nad ydych yn hyderus gyda chyfrifiaduron mae Modiwl Mynediad yn rhoi llawer o help a chyngor i chi wrth eich arwain trwy dasgau fel: chwilio ar y rhyngrwyd, cwisiau ar-lein a siarad â chyd-fyfyrwyr trwy ein fforymau ar-lein.