You are here

  1. Hafan
  2. Astudio
  3. Cyrsiau a Chymwysterau
  4. Gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol

Gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol

Yn cefnogi datblygu proffesiynol mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru

A ydych chi’n gweithio mewn gofal cymdeithasol ac yn ystyried gofal cymdeithasol neu waith cymdeithasol fel gyrfa? Mae gan y Brifysgol Agored ystod o raglenni cyflwyno a chyrsiau achrededig i roi cymorth i chi gychwyn arni.

Tystysgrif Addysg Uwch mewn Ymarfer Gofal Cymdeaithasol (Cymru)

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn darparu ar gyfer cydnabod ac ymestyn rolau cymorth gofal cymdeithasol a sicrhau bod ymarferwyr gofal cymdeithasol wedi’u cyfarparu’n briodol ac yn gymwys i gwblhau eu rôl. Y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Gofal Cymdeithasol (Cymru)  gan y Brifysgol Agored yw’r cymhwyster cyntaf a ddewiswyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru i fodloni’r Gofynion Ymarferwyr Gwasanaethau Cymdeithasol hyn.

Mae’r Dystysgrif yn archwilio’r syniadau ynghylch gawith gofal cymdeithasol a gawaith cymdeithasol – gan ddefnyddio astudiaethau achos gyda phlant, pobl hŷn, cymunedau iechyd meddwl, plant ag anableddau a phobl ag anableddau dysgu, i ddefnyddio dysgu mewn sefyllfaoedd ymarferol. Byddwch yn meithrin sgiliau allweddol mewn technolegau gwybodaeth a chyfathrebu, llythrennedd digidol a gwybodaeth ac ysgrifennu myfyriol.

Perthnasedd i yrfa a chyflogadwyedd

Cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol, mae’r dystysgrif hon o addysg uwch yn cyfateb hefyd i draean gyntaf gradd anrhydeddus. Yn ogystal â’ch helpu i benderfynu a yw’r math yma o waith ac astudio yn rhywbeth yr ydych yn ei fwynhau, neu eich cyfarparu ar gyfer eich rôl bresennol mewn gofal cymdeithasol, gall y dystysgrif fod o gymorth i chi fynd ymlaen at astudio proffesiynol neu academaidd pellach:

BA (Anrhydedd) Gwaith Cymdeithasol (Cymru) – rhaid i chi ymgeisio a chael eich dewis i ennill le ar y cwrs gradd hwn

BA (Anrhydedd) Gofal Iechyd a Chymdeithasol – gallwch astudio’r radd hon heb fynd drwy broses o ddethol

Ddim cweit yn barod ar gyfer addysg uwch?

Rhaglen Fynediad OU

Os nad ydych cweit yn barod i gofrestru ar gyfer y Dystysgrif, gall Rhaglen Fynediad yr OU eich helpu ar eich camau cyntaf i astudio gyda’r OU. Prif nod y modiwlau mynediad yw rhoi cyfle i fyfyrwyr roi cynnig ar ddysgu o bell, meithrin eu hyder, datblygu sgiliau astudio a rhoi blas iddynt ar bwnc neilltuol, a gallech fod yn gymwys am fwrsari i ddilyn y cwrs am ddim.

Adnoddau OpenLearn Am Ddim

Yn ogystal â’n cyrsiau achrededig a rhaglenni allgymorth cyflwynol mae nifer o gyrsiau anffurfiol perthnasol ac unedau sgiliau astudio y gallwch gael mynediad atynt ar unrhyw amser am ddim. Defnyddiwch y dolenni isod i gael golwg ar ein dysgu am ddim.

Adnoddau eraill am ddim