You are here

  1. Hafan
  2. Astudio
  3. Cyrsiau a Chymwysterau
  4. Modiwlau Mynediad yn Y Brifysgol Agored

Modiwlau Mynediad yn Y Brifysgol Agored

Modiwlau Mynediad yw'r man cychwyn delfrydol os oes angen i chi ddatblygu eich sgiliau astudio a magu eich hyder. 

Beth yw modiwl Mynediad? 

Mae modiwlau Mynediad yn rhoi'r cyflwyniad perffaith i astudio gyda'r Brifysgol Agored. Os ydych yn newydd i astudio ar lefel prifysgol, eisiau datblygu neu atgyfnerthu eich sgiliau astudio neu fagu mwy o hyder wrth astudio, yna efallai mai un o fodiwlau Mynediad Y Brifysgol Agored yw'r man cychwyn delfrydol i chi. Astudir modiwlau Mynediad dros gyfnod o 30 wythnos ac yn ystod y cyfnod hwnnw dylech ddisgwyl treulio tua naw awr yr wythnos yn astudio. 

Beth gallaf ei astudio?

Mae dewis o dri modiwl Mynediad:

Y Celfyddydau ac ieithoedd

Mae'r modiwl hwn yn fan cychwyn delfrydol os oes gennych ddiddordeb yn y celfyddydau ac ieithoedd. Mae'n ystyried amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys hanes celf, llenyddiaeth Saesneg, hanes, ysgrifennu creadigol ac ieithoedd modern. 

Gwyddoniaeth, technoleg a mathemateg

Mae'r modiwl hwn yn fan cychwyn delfrydol os nad oes gennych fawr ddim gwybodaeth flaenorol am wyddoniaeth, technoleg na mathemateg, ac os hoffech ddatblygu eich gwybodaeth, rhifedd a sgiliau astudio. Y pynciau yn y modiwl hwn yw gwyddoniaeth, peirianneg a dylunio, amgylchedd, mathemateg a chyfrifiadureg a TG.

Seicoleg, gwyddor gymdeithasol a lles 

Mae’r modiwl hwn yn eich galluogi i ddatblygu gwybodaeth bynciol a sgiliau astudio cyffredinol. Mae’n rhoi cyflwyniad i ystod eang o bynciau, gan gynnwys seicoleg, plentyndod ac ieuenctid, y blynyddoedd cynnar, iechyd a lles cymdeithasol, chwaraeon, addysg a’r gwyddorau cymdeithasol.

Busnes a'r gyfraith

Mae’r modiwl hwn yn eich galluogi chi i ddysgu am fusnes a’r gyfraith, eu materion pwysig a’u dylanwad ar ein bywydau bob dydd, wrth ddatblygu ac ennill hyder mewn sgiliau astudio allweddol.

Sut gaf wybod mwy?

Rydym yn rhedeg nifer o ddigwyddiadau diwrnod agored am ddim ledled de Cymru i’ch cynorthwyo i wybod mwy am ein modiwlau Mynediad. Rhestrir ein digwyddiadau ‘Mynediad i’ch dyfodol’ isod. Gallwch un ai alw i mewn neu archebu ymlaen llaw i’n gweld am sgwrs anffurfiol am ein cyrsiau.

Am ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau yn eich hardal, edrychwch ar ein tudalen Facebook.

Beth fydd y gost?

Mae faint sy'n rhaid i chi ei dalu am fodiwl Mynediad yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol. Mae ystod o opsiynau talu i wneud astudio yn fwy fforddiadwy, ac efallai y gallwch hyd yn oed astudio am ddim.

 

 

 

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Sut ydw i'n cofrestru?

Gallwch gael rhagor o wybodaeth, siarad â chynghorydd a chofrestru drwy edrych ar dudalennau we cwrs Mynediad Y Brifysgol Agored.