English  

Astudiaeth Ôl-raddedig

Fel y sefydliad academaidd mwyaf yn y DU ac arweinydd byd-eang mewn dysgu hyblyg, rydym yn enwog am ein rhaglenni ôl-raddedig.

Dysgwch fwy am ein cyrsiau a pham mae myfyrwyr yn dewis astudio gyda ni.

Porwch yr holl gyrsiau

Rydym yn cynnig dros 180 o gyrsiau. Dewch o hyd i’r un iawn i chi.

A-Y o'r cyrsiau

Porwch yn ôl cymhwyster

Beth bynnag yw eich nodau astudio, bydd ein tystysgrifau, diplomau a’n graddau meistr yn eich helpu i’w cyflawni.

Math o gyrsiau

Graddau ymchwil

Gyda thua 1,000 o ymchwilwyr ôl-raddedig yn astudio gyda ni ar hyn o bryd, mae galw am ein graddau ymchwil. 

Graddau ymchwil

Porwch y pynciau

Mae ystod eang o bynciau deniadol i ddewis o'u plith.

Porwch y pynciau

Y cyfan sydd angen ei wybod i ddechrau arni

Mae dechrau eich astudiaethau ôl-raddedig gyda ni yn hawdd, pob blwyddyn rydym yn helpu miloedd o bobl i gyflawni pethau eithriadol. Dyma ychydig o wybodaeth hanfodol a fydd yn ddefnyddiol i’ch helpu i ddechrau arni heddiw.

Pam y Brifysgol Agored?

Pob blwyddyn, mae llawer o fyfyrwyr ôl-raddedig yn dewis astudio gyda ni yn hytrach nag unrhyw brifysgol arall. Darganfyddwch pam mai ni yw eu dewis cyntaf.

Ffioedd a Chyllid

Ydych chi'n ystyried astudio cwrs ôl-raddedig gyda ni? Gallech fod yn gymwys i gael benthyciad cynhaliaeth heb brawf modd o hyd at £18,950.

Sut i ymgeisio

Dysgwch am ein gofynion mynediad, pryd i ymgeisio, a sut gallai eich astudiaethau blaenorol leihau cost eich astudiaethau gyda ni.

Paratoi i astudio

Mae astudiaeth ôl-raddedig, wrth gwrs yn heriol, ond rydym yma i’ch helpu i gynllunio a pharatoi. Dysgwch am reoli amser a’r sgiliau eraill ydych eu hangen.

Gyrfaoedd

O fewn chwe mis o raddio, mae 85% o’n myfyrwyr ôl-raddedig mewn cyflogaeth. Dysgwch fwy am ein cefnogaeth gyrfa anhygoel a pham bod cyflogwyr yn gwerthfawrogi ein cymwysterau.

Cymorth anabledd

Rydym yn ymdrechu i wneud pob agwedd ar astudio yn hygyrch i bawb, a dyna pam mae mwy o fyfyrwyr anabl yn dewis y Brifysgol Agored nag unrhyw Brifysgol arall yn y DU.

Gofyn am brosbectws Ôl-raddedig

Mae’n llawn gwybodaeth am ffioedd, cyllid, cyrsiau, pynciau a mwy, ein prosbectws yw eich canllaw angenrheidiol i fywyd ôl-raddedig yn y Brifysgol Agored.

Gofyn am Brosbectws

Dewch yn Beiriannydd Siartredig

Mae ein MSc mewn Peirianneg wedi’i achredu gan sawl sefydliad peirianneg blaenllaw, felly mae’n diwallu’r gofynion addysgol ar gyfer cofrestru fel Peiriannydd Siartredig (CEng).

Darganfyddwch fwy am ein cwrs MSc mewn Peirianneg

Rhowch hwb i’ch gyrfa gyda’n Gradd MBA

Mae statws achrediad triphlyg ein Hysgol Fusnes yn ein gosod ymhlith y 1% uchaf o ysgolion busnes yn y byd. Dewch i weld pam gyda'n Gradd MBA hyblyg, sy’n seiliedig ar ymarfer.

Dysgu mwy am ein Gradd MBA