You are here

  1. Hafan
  2. 'Rhoddodd y Brifysgol Agored fy hyder yn ôl i mi': Profiad Beck o astudio gydag MS

'Rhoddodd y Brifysgol Agored fy hyder yn ôl i mi': Profiad Beck o astudio gydag MS

 Beck mewn seremoni raddio o flaen tarian y Brifysgol Agored

Daw Beck Collett o Benybont. Yn 2022, graddiodd gyda gradd meistr mewn Ysgrifennu Creadigol o’r Brifysgol Agored yng Nghymru, ar ôl astudio’i chwrs israddedig gyda’r Brifysgol hefyd. Mae’n byw gyda sglerosis ymledol (MS), sef cyflwr sy’n effeithio ar oddeutu 5,600 o bobl yng Nghymru.

Gadawodd Beck yr ysgol pan oedd yn 16 oed ar ôl gorffen ei chymwysterau TGAU. Doedd ei bywyd gartref ddim bob amser yn sefydlog, a doedd hi ddim yn teimlo ei bod wedi cael amser i baratoi’n iawn ar gyfer ei haddysg.

‘Roedd ail briodas fy mam yn ansefydlog, ac ar ôl imi orffen fy arholiadau, fe symudon ni i loches am rai misoedd,’ medd Beck. ‘Wnaeth pethau ddim mynd yn rhy dda yn y lloches, ac yn y diwedd fe aethon ni’n ôl adref. Roedd fy meddwl ar chwâl. Roeddwn i wedi bod yn dioddef yn dawel gydag iselder ers blynyddoedd, ac roedd y ffaith fy mod gartref drwy’r dydd, heb allu mynd i’r ysgol am seibiant hyd yn oed, yn gwaethygu pethau.’

Ar ôl dechrau chwilio am waith, llwyddodd Beck i gael swydd ddiogel mewn archfarchnad leol, a phan oedd yn 18 oed symudodd i’w chartref ei hun. Pan oedd yn 32 oed, penderfynodd droi at yrfa newydd mewn garddwriaeth.

‘Er bod fy ngŵr wedi crybwyll sawl gwaith dros y blynyddoedd y gallwn ddychwelyd at astudio, roeddwn i wastad wedi diystyru’r syniad,’ medd Beck. ‘Roedd y rhan honno o ’mywyd wedi gorffen. A minnau â chymwysterau TGAU sylfaenol yn unig, sut allwn i hyd yn oed ystyried astudio cwrs gradd?

‘Na, nid dyna oedd fy ffawd. Roedd gen i droedle mewn diwydiant newydd ac roeddwn i’n benderfynol o esgyn i’r brig. Ar ôl chwe mis, cefais fy ngwneud yn rheolwr adrannol ac roedd pethau’n mynd yn eu blaen yn wych. Ond buan y daeth hynny i ben.’

‘Dechreuodd pethau bach fynd o’u lle’

Yn fuan ar ôl gadael ei hen swydd, sylwodd Beck ar newidiadau yn ei hiechyd.

‘Dechreuodd pethau fynd o’u lle fisoedd yn unig ar ôl imi adael fy hen swydd,’ meddai. ‘Ar eu pen eu hunain, roedd hi’n hawdd eu diystyru, ond fe ddechreuon nhw hel a hel fel jig-so bach gwyrdro yn llawn trychineb posibl. Archwiliadau, profion gwaed, sganiau MRI, tynnu hylif o’r meingefn, a phobl yn ceisio tawelu fy meddwl trwy ddweud ‘dim ond dilyn y drefn ydyn ni… i ddiystyru pethau… does dim angen ichi boeni am y peth, dw i’n siŵr.’

Yn y pen draw, yn gynnar yn 2007, cafodd Beck wybod bod ganddi sglerosis ymledol. Ar ôl rhai misoedd yn ceisio dod i delerau â’r newyddion, fe wnaeth John, ei gŵr, ei hannog i ystyried astudio. A’r adeg honno, ar amrantiad, syrthiodd taflen hysbysebu allan o gylchgrawn – taflen y Brifysgol Agored.

‘Wrth edrych yn ôl ar y cyfnod hwnnw, dw i ddim yn meddwl y buaswn i wedi gallu cario ’mlaen pe bai hynny heb ddigwydd,’ medd Beck. ‘Roeddwn i’n teimlo mor ddiwerth, heb unrhyw bwrpas. Ac yn ddisymwth, fe ddigwyddodd hyn ar yr union adeg iawn – gwyrth, yn wir.’

‘Doeddwn i ddim yn ddigon da i ymrwymo i fynychu prifysgol ‘brics a morter’. Fuaswn i ddim wedi cael y rhyddid i ddewis fy amseroedd astudio yn unlle arall ar wahân i’r Brifysgol Agored.’

Dianc i fyd llyfrau

Bob dydd, roeddwn i’n dysgu rhywbeth newydd neu’n meddwl mewn ffordd wahanol am bethau roeddwn i wastad wedi’u credu. Ar y cyfan, roedd y pynciau hyn yn gysylltiedig â phethau roeddwn i wedi’u darllen yn neunyddiau’r cwrs, ond sylweddolais fy mod i’n newid fel person wrth i bethau fynd yn eu blaen.

Fel yn achos nifer o fyfyrwyr sy’n astudio ysgrifennu creadigol, mae Beck yn gwirioni ar ddarllen. Yn ystod ei harddegau, arferai ddianc i fyd llyfrau a cherddoriaeth – er, mae hi’n cyfaddef nad yw’n meddu ar fawr ddim gallu cerddorol. Mae hi’n cofio mwynhau llenyddiaeth Saesneg yn yr ysgol, ac roedd hi o’r farn mai astudio pwnc tebyg ar lefel gradd fyddai’r dewis gorau iddi hi.

Ar ôl iddi gael y diagnosis, bu’n rhaid i Beck addasu cryn dipyn er mwyn dechrau astudio ei chwrs israddedig, yn enwedig gan fod cynifer o flynyddoedd wedi mynd heibio ers iddi astudio ei chymwysterau TGAU.

‘Nid oedd yna ‘amser astudio’ y gellid ei rannu fyny, nid fel mynd i’r ysgol, gwneud rhywfaint o waith cartref, yna anghofio am y peth,’ meddai. 'Bob dydd, roeddwn i’n dysgu rhywbeth newydd neu’n meddwl mewn ffordd wahanol am bethau roeddwn i wastad wedi’u credu. Ar y cyfan, roedd y pynciau hyn yn gysylltiedig â phethau roeddwn i wedi’u darllen yn neunyddiau’r cwrs, ond sylweddolais fy mod i’n newid fel person wrth i bethau fynd yn eu blaen.

‘Yn ddi-os, roeddwn i’n teimlo fel rhoi’r ffidil yn y to ar brydiau (yn enwedig yn nyddiau cynnar y cwrs israddedig), a chollais hyder yn fy ngalluoedd a ’mreuddwydion. Ond roedd rhywun wastad wrth law i roi anogaeth imi a ’nghymell yn fy ymlaen. Heb gymorth y tiwtoriaid a’r myfyrwyr eraill, dw i’n gwybod na fuaswn i wedi gorffen y naill radd na’r llall.’

Cymorth gan y Brifysgol Agored

Fel yn achos nifer o fyfyrwyr anabl, bu modd i Beck gael cymorth ar wahanol lefelau gan dîm cymorth y Brifysgol Agored, dros y ffôn a thrwy e-bost. Cafodd help i gael Lwfans i Fyfyrwyr Anabl, a helpodd iddi dderbyn cyfrifiadur, argraffydd, meddalwedd tywllu sgrîn, a meddalwedd adnabod llais ar gyfer adegau pan na allai deipio.

Yr unig beth a oedd yn bwysig i’r Brifysgol Agored oedd sicrhau ein bod mewn sefyllfa i wneud y pethau roedd angen inni eu gwneud. Dim beirniadu, dim gwarth, dim ond ein galluogi. Bu’n brofiad cadarnhaol.

Mae myfyrwyr y Brifysgol Agored yn aml yn cael llawer o gymorth gan eu tiwtoriaid. Mae hyn yn cynnwys pethau fel estyniadau i derfynau amser i aseiniadau os oes angen mwy o amser arnynt i gwblhau'r gwaith. Mae cyflwr Beck yn golygu y bydd hi’n aml yn profi blinder, felly roedd hi’n gweld yr estyniadau fel hyn yn help mawr.

‘Dydw i ddim yn meddwl cefais i un modiwl israddedig neu feistr na wnes i ofyn am o leiaf un estyniad arno,’ meddai Beck. ‘Roedd fy nhiwtoriaid yn wych, yn cynnig anogaeth drwy e-bost neu dros y ffôn.’

Byddai Beck hefyd yn profi cur pen wrth edrych ar sgrin ddisglair y cyfrifiadur a fyddai'n sbarduno ei fertigo. Diolch byth, fe wnaeth y meddalwedd sgrin a ddarparwyd trwy lwfans myfyrwyr anabl, a newidiodd y lliw ar y monitor, helpu Beck i osgoi'r cur pen a chaniatáu iddi ganolbwyntio ar ei gwaith.

‘Rwy’n meddwl mae’n debyg mai dyna oedd yr addasiad unigol gorau a gefais trwy gydol fy astudiaethau, gan ei fod yn torri lawr ar ddau fater rhwystredig,’ meddai.‘Roedd gen i arholiad ar gyfer un o’r modiwlau cynnar. Fe wnaeth y Brifysgol Agored drefnu imi sefyll yr arholiad gartref gan nad oeddwn i’n gallu teithio,’ medd Beck. ‘Dw i wastad yn ei chael hi’n haws deall pethau ar ddu a gwyn, oherwydd dw i byth yn gallu clywed yn iawn dros y ffôn. Wnaethon nhw erioed wneud imi deimlo fel pe bawn i’n niwsans.

‘Roedd ffurflenni’r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl yn drylwyr ond yn hawdd eu dilyn, ac roedd hi’n hawdd cael gafael ar y dystiolaeth angenrheidiol. O’r cychwyn cyntaf, bu’r broses ar ei hyd yn gyflym iawn. Doeddwn i ddim yn teimlo bod pobl wedi fy anghofio. O ran help ymarferol ac ariannol, aeth y Brifysgol Agored ymhellach o lawer na’r disgwyl – dw i ddim yn credu y galla’ i byth dalu’n ôl iddyn nhw am gredu ynof fi.’

Hefyd, daeth Beck o hyd i gymorth ar y fforymau ar-lein sydd ar gael i fyfyrwyr y Brifysgol Agored ar gyfer pob modiwl. Wrth fwrw’i bol ynglŷn â’r heriau a oedd yn ei hwynebu, sylweddolodd fod nifer o’i chyfoedion yn astudio gydag anableddau cudd a gweladwy.

‘Yr unig beth a oedd yn bwysig i’r Brifysgol Agored oedd sicrhau ein bod mewn sefyllfa i wneud y pethau roedd angen inni eu gwneud. Dim beirniadu, dim gwarth, dim ond ein galluogi. Bu’n brofiad cadarnhaol,’ meddai.

Cyngor i fyfyrwyr eraill

Ar ôl cwblhau ei gradd meistr yn 2002, graddiodd Beck yn seremoni raddio’r Brifysgol Agored yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd, gyda’i gŵr John, merch Eve, a’i mham a’i chwaer yno i’w chefnogi. Mae hi’n parhau i ysgrifennu’n greadigol, gan gyfrannu’n aml at gyhoeddiadau ar gyfer Cymdeithas Sglerosis Ymledol Cymru. 

Neges Beck i bobl anabl eraill sy’n ystyried dysgu pethau newydd yw y dylent ystyried y Brifysgol Agored:

‘Chewch chi byth bythoedd gymaint o gefnogaeth ac anogaeth ag a gewch trwy fod yn rhan o deulu’r Brifysgol Agored. Fe fydd eich tiwtoriaid wedi clywed a delio â phopeth o’r blaen. Allwch chi ddim eu synnu na’u siomi trwy sôn am broblemau sydd gennych yn awr neu a allai ddigwydd yn y dyfodol.

‘Byddwch yn onest ynglŷn â’r help rydych ei angen: mae help ar gael, hyd yn oed os ydych chi’n credu’n wahanol. Fe fydd rhywun wedi troedio’r llwybr o’ch blaen chi, a chlirio rhywfaint arno. Fe fyddwch yn siŵr o’ch rhyfeddu eich hun. Coeliwch chi fi.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Menyw yn chwerthin gyda gofalwr

‘Rydw i eisoes wedi dod yn fwy hyderus’ - Mae’r rhaglen hyfforddiant yn helpu i ddatblygu gwirfoddolwyr Cymru

Mae rhaglen hyfforddiant a sefydlwyd i gefnogi gwirfoddolwyr trydydd sector yn awr yn dechrau ar ei hail flwyddyn.

10 Ebrill 2024
Dyn a menyw yn cael sgwrs ar safle adeiladu.

Lansio gwefan addysg newydd ar gyfer gweithwyr yng Nghymru

Mae gwefan newydd wedi'i lansio gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru a TUC Cymru i gefnogi mwy o bobl i ddysgu gydol oes. 

7 Mawrth 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891