Atebion i’ch cwestiynau
Sut beth yw astudio gyda'r Brifysgol Agored?
Byddwch yn medru astudio o adref, yn yr ysgol, neu le bynnag fynnoch chi. Byddwch yn defnyddio ein Hamgylchedd Dysgu Rhith i gael mynediad gynnwys modiwl fel gwerslyfrau, fideo a sain, gweithgareddau ymarfer dysgu. Yma, gallwch hefyd rhyngweithio gyda thiwtoriaid a myfyrwyr eraill drwy fforymau ar-lein.
A fyddaf yn cael cymorth?
Er bod TAR gyda'r Brifysgol Agored yn cynnwys dysgu o bell, mae llawer o gymorth ar gael. Byddwch yn cael Tiwtor Cwricwlwm a fydd yn arbenigo yn eich maes dewisol chi, a byddwch yn cael cymorth a chyngor ymarferol gan fentor yn yr ysgol.
Hefyd, byddwch yn medru siarad gyda'n Tîm Cymorth Myfyrwyr ymrwymedig a all roi help ac arweiniad ichi drwy gydol eich astudiaethau. Ni fyddwch ar eich pen eich hun.
Pa gymwysterau ydw i eu hangen?
Mae'n rhaid ichi fod â gradd anrhydedd yn y DU yn barod i gofrestru ar gyfer y TAR. Os hoffech chi ddod yn athro neu athrawes ysgol uwchradd, mae’n rhaid i’ch gradd gynnwys cyfran sylweddol o’r pwnc rydych eisiau ei addysgu. Yr eithriad ar gyfer hyn yw Cymraeg, lle gallwch wneud cais gydag unrhyw radd, ar yr amod eich bod yn siaradwr Cymraeg rhugl.
Dylech fod â Gradd B neu uwch mewn Mathemateg neu Fathemateg-Rhifedd ar lefel TGAU (neu gyfwerth). Ac un o’r canlynol ar o leiaf Gradd B (neu gyfwerth):
- Iaith Saesneg
- Llenyddiaeth Saesneg
- Iaith Gymraeg (iaith gyntaf)
- Llenyddiaeth Gymraeg.
Os oes gennych radd sy’n gyfwerth â B (TGAU neu gyfwerth) mewn unai Llenyddiaeth Saesneg neu Lenyddiaeth Gymraeg, mae'n rhaid ichi hefyd fod ag o leiaf gradd C (TGAU neu gyfwerth) yn yr arholiad TGAU Iaith Saesneg neu Iaith Gymraeg (iaith gyntaf) cyfatebol.
Os ydych chi am ddod yn athro ysgol gynradd, rhaid i chi hefyd fod â Gradd C neu uwch mewn Gwyddoniaeth ar lefel TGAU (neu gyfwerth).
Ar gyfer mynediad 2022/3, derbynnir Gradd C (TGAU neu gyfwerth) mewn Mathemateg neu Saesneg Iaith a Gradd D mewn Gwyddoniaeth (Cynradd yn unig). Bydd gofyn i fyfyrwyr gyflawni'r graddau uwch angenrheidiol (TGAU neu gyfwerth) yn ystod y rhaglen neu bydd gofyn iddynt roi'r gorau i'r cwrs.