You are here

  1. Hafan
  2. Ein gwaith
  3. Ysgolion a cholegau
  4. Athrawon yn dysgu sut i addysgu ieithoedd (TELT)

Athrawon yn dysgu sut i addysgu ieithoedd (TELT)

Cynnwys

1. Beth yw TELT? 
2. Ar gyfer pwy mae modiwlau TELT?
3. Sut mae’n gweithio?
4. Pa offer sydd ei angen arnaf i ddilyn y modiwl hwn?
5. Sut i gofrestru 


Cwestiynau cyffredin
Dysgu sut i addysgu ieithoedd mewn ysgolion cynradd (Cychwynwyr Ffrangeg)
Dysgu sut i addysgu ieithoedd mewn ysgolion cynradd (Cychwynwyr Sbaeneg)
Dysgu sut i addysgu ieithoedd mewn ysgolion cynradd (Cychwynwyr Almaeneg)
Dysgu sut i addysgu ieithoedd mewn ysgolion cynradd (Cychwynwyr Mandarin Tsieinëeg)  

1. Beth yw TELT?

Mae Athrawon yn Dysgu Sut i Addysgu Ieithoedd (TELT) yn rhaglen datblygiad proffesiynol sy’n ceisio cynyddu a gwella darpariaeth iaith ryngwladol mewn ysgolion cynradd, gan roi cyfle i athrawon ddysgu iaith newydd ar yr un pryd a’r sgiliau i ddysgu’r iaith honno yn yr ystafell ddosbarth. Mae TELT yn gydweithrediad rhwng y Brifysgol Agored yng Nghymru a’r Alban a ddatblygwyd mewn partneriaeth â SCITL, Canolfan Ieithoedd Genedlaethol yr Alban. Cafodd y rhaglen datblygu proffesiynol gynhwysfawr hon ei darparu i athrawon cynradd ledled Cymru yn 2018 gan gyllid Llywodraeth Cymru drwy Ddyfodol Byd-eang.   

2. Ar gyfer pwy mae modiwlau TELT?

Mae TELT yn anelu at gefnogi athrawon ysgolion cynradd yn y cyfnod pontio i’r cwricwlwm newydd i Gymru, drwy gynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol i ymarferwyr i’w helpu ar y daith i wireddu’r cwricwlwm newydd mewn ysgolion. Gwneir hyn yn bennaf drwy integreiddio ieithoedd a dysgu addysgeg ac, ar yr un pryd, datblygu cysylltiadau rhyngddiwylliannol a digidol.

Mae’r rhaglen TELT hefyd ar gael i athrawon yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Roedd y cwrs 'TELT yn wych! Cefais gyfle i ddysgu Sbaeneg a sut y gellir cyflwyno'r iaith yn y dosbarth efo blwyddyn 1 a 2. Roedd y cwrs yn gymysgedd o ddysgu geirfa, sut i ynganu, gramadeg a gywbodaeth am ddiwylliant glwedydd sy'n siarad Sbaeneg. Roeddwn yn gweithio'n llawn amser ac yn dilyn y cwrs yn ddigon hawdd - doedd o ddim yn faich o gwbl gyda digonedd o amser i gwblhau tasgau. Cafodd pob darlith ei recordio felly roedd modd ail wrando pe byddwn yn methu, neu eisiau ymarfer ymhellach. Cafwyd cyfleoedd i ymarfer drwy brofion byr a thasgau hunan astudiaeth. Ysbrydolais ambell un arall o fewn yr ysgol i ddechrau dysgu iaith a roeddwn yn mwynhau gallu ymarfer efo'r dosbarth. Roeddwn wedi mwynhau gymaint wnes i astudio Lefel 2 y flwyddyn ganlynol hefyd. Mae'n gwrs gwych. Ewch amdani!

Rhiannon Williams
Cyn-fyfyriwr TELT

3. Sut mae’n gweithio?

Rhaglen dysgu o bell ar-lein yw TELT. Mae dau edefyn:

Mae’r edefyn iaith ar gael mewn pedair iaith ar lefel Dechreuwyr neu Ôl-ddechreuwyr. Gall myfyrwyr astudio’r iaith o’u dewis, ar y lefel briodol, a chael 15 o gredydau’r Brifysgol Agored sy’n cyfrannu at Radd Agored.

Yr opsiynau yw:

Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg a Mandarin Tsieinëeg ar lefel dechreuwyr 

Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg a Mandarin Tsieinëeg ar lefel ôl-ddechreuwyr 

Dysgir yr edefyn addysgeg ar lefel ôl-raddedig a bydd athrawon yn derbyn tystysgrif ar ôl ei gwblhau’n llwyddiannus.

Mae TELT yn gofyn am naw mis o astudiaeth i gyd (Medi i ddechrau Gorffennaf) gydag oddeutu pum awr o astudio bob wythnos. Oherwydd cyfyngiadau COVID, mae tiwtorialau’n cael eu darparu’n gyfan gwbl ar-lein ar hyn o bryd, er efallai y bydd tiwtorialau wyneb yn wyneb dewisol ar gael yn y dyfodol.

4. Pa offer sydd ei angen arnaf i ddilyn y modiwl hwn?

Byddwch angen y canlynol:

  • dyfais sydd â mynediad i’r rhyngrwyd i astudio’r modiwl hwn, gan fod porwr gwe yn cael ei ddefnyddio i gael gafael ar ddeunyddiau a gweithgareddau dysgu

Mae unrhyw weithgareddau cyfrifiadurol eraill y bydd angen i chi eu gwneud, fel prosesu geiriau, defnyddio taenlenni, cymryd rhan mewn fforymau ar-lein, a chyflwyno ffeiliau i’r brifysgol i’w hasesu, wedi’u nodi yn y deunyddiau modiwl.

Os oes angen unrhyw feddalwedd ychwanegol ar gyfer y tasgau hyn, bydd naill ai’n cael ei ddarparu neu ar gael am ddim. Efallai y bydd angen hawliau gweinyddol arnoch i osod y meddalwedd.

Dyma’r dyfeisiau addas:

  • Cyfrifiadur desg neu liniadur Windows sy’n rhedeg Windows 7 neu system weithredu ddiweddarach
  • Cyfrifiadur desg neu liniadur Macintosh sy’n rhedeg OS X 10.8 neu system weithredu ddiweddarach.

Fydd rhai rhaglenni ddim yn rhedeg ar ddyfeisiau Linux, iOS nac Android.

  • penset gyda microffon a chlustffonau i siarad â'ch tiwtor a myfyrwyr eraill ar-lein yn ystod rhai o weithgareddau'r astudiaeth, a'r cyfleuster i chwarae CDs sain (dewisol).

Mae’r llyfr a gwefan benodol gydag adnoddau ar-lein ychwanegol, gweithgareddau a recordiadau sain ar-lein wedi’u cynnwys.

Fel myfyriwr iaith gofrestredig, mae gennych fynediad at fforwm ar-lein, lle gallwch gyfathrebu â chyd-fyfyrwyr.

5. Sut i gofrestru

Mae llefydd ar raglen TELT Cymru yn cael eu hariannu ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru drwy Dyfodol Byd-eang ar gyfer athrawon ysgolion cynradd sy’n byw yng Nghymru.

Mae’r broses gofrestru ar gyfer bob blwyddyn academaidd yn cael ei chydlynu gan eich Arweinydd Dyfodol Byd-eang Consortia Rhanbarthol CSC, EAS, Partneriaeth, GwE, Partneriaeth Canolbarth Cymru a’r Brifysgol Agored yng Nghymru.

Bob blwyddyn bydd arweinydd Dyfodol Byd-eang y consortia Addysg ar gyfer ieithoedd yn dosbarthu gwybodaeth am sut i gofrestru ar gyfer lle ar fodiwl TELT i ysgolion yn eu consortia. Bydd hyn yn digwydd ddechrau’r haf fel arfer. Dylai myfyrwyr sy’n dymuno cofrestru lenwi’r dogfennau angenrheidiol a’u dychwelyd i arweinydd eu Consortia.  Yna, bydd tîm recriwtio’r Brifysgol Agored yn prosesu’r ceisiadau ac yn cysylltu â myfyrwyr yn uniongyrchol gyda manylion mewngofnodi’r Brifysgol Agored ym mis Medi.

Rhaid cofrestru erbyn dechrau Medi cyn i’r modiwl ddechrau ym mis Hydref bob blwyddyn. Bydd cyflwyniad ar-lein gorfodol yn cael ei gynnig i bob myfyriwr cyn dechrau addysgu ym mis Hydref.