You are here

  1. Hafan
  2. Ein gwaith
  3. Ysgolion a cholegau
  4. Y Rhaglen Gyfoethogi Genedlaethol

Y Rhaglen Gyfoethogi Genedlaethol

logo RhGGMae’r Rhaglen Gyfoethogi Genedlaethol yn gydweithrediad ar draws Cymru rhwng y Brifysgol Agored yng Nghymru a phob un o’r 12 coleg yng Nghymru. Mae'n cefnogi myfyrwyr coleg i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau y mae cyflogwyr a phrifysgolion yn chwilio amdanynt, gan eu helpu i gymryd y cam nesaf.

Mae'r rhaglen yn cynnwys cyfres o weithdai rhithwir rhyngweithiol a gyflwynir gan siaradwyr gwadd o'r Brifysgol Agored ac academyddion, ar bynciau fel sgiliau digidol, cyflogadwyedd, datblygu gyrfa, dysgu ar gyfer cymdeithas a sgiliau bywyd.

Mae OpenLearn, platfform dysgu anffurfiol rhad ac am ddim y Brifysgol Agored, yn ganolog i'r rhaglen. Rydyn ni’n cyfeirio pob dysgwr at ein hadnoddau OpenLearn i’w helpu ar eu taith ddysgu. Mae hyn yn eu galluogi i ddatblygu eu sgiliau astudio annibynnol, archwilio pynciau diddorol a deall llwybrau i astudio’n ffurfiol.

Rydym yn hyfforddi staff y coleg sy'n cyflwyno'r rhaglen fel Hyrwyddwyr OpenLearn y Brifysgol Agored yng Nghymru. Mae hyn yn rhoi dealltwriaeth iddyn nhw o adnoddau OpenLearn er mwyn iddyn nhw allu helpu’r myfyrwyr maen nhw’n gweithio gyda nhw.

Bydd gan ddysgwyr hyb glanio OpenLearn unigryw, lle gallant ddod o hyd i holl adnoddau’r rhaglen gan gynnwys recordiadau o’r gweithdai, y canllaw digidol i ddysgwyr a’r logiau myfyrio.

Anfonwch e-bost atom yn wales-partnerships@open.ac.uk os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Gyfoethogi Genedlaethol.