England
Where do you live?
Pam dewis y Brifysgol Agored?
Mae ein myfyrwyr yn dod o bob cwr o Gymru ac yn byw bywydau prysur, yn cydbwyso eu hastudiaethau gyda’u cyfrifoldebau a dan amgylchiadau o ddydd i ddydd. Mae’r Brifysgol Agored yn cynnig astudiaeth sy’n hyblyg, yn cyd-fynd â'ch bywyd, gyda chymorth ar bob cam o'r ffordd. Dyna pam mae mwy o fyfyrwyr anabl yn dewis astudio gyda’r Brifysgol Agored nag unrhyw brifysgol arall yn y DU. Y llynedd yn unig, cefnogodd y Brifysgol Agored dros 28,000 o fyfyrwyr ag anableddau ac anghenion ychwanegol.
Pa gefnogaeth sydd ar gael?
-
Eich tiwtor - Bydd tiwtor yn cael ei neilltuo i chi ar gyfer pob modiwl rydych chi’n ei astudio gyda ni. Mae'r tiwtoriaid yn arbenigwyr yn eu meysydd ac yn cynnig cymorth, adborth ac arweiniad i chi drwy gydol eich astudiaethau. -
Ein Tîm Cefnogi a Recriwtio Myfyrwyr - Mae ein tîm yng Nghymru yma i gynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar ystod o bynciau, gan gynnwys dewis cyrsiau ac opsiynau cyllid. Maent hefyd yma i drafod unrhyw addasiadau astudio a all fod eu hangen arnoch er mwyn helpu ag unrhyw bwysau allanol a all effeithio ar eich astudiaethau. Nid ydych byth ar eich pen eich hun yn y Brifysgol Agored. -
Eich cyd-fyfyrwyr drwy ein fforymau myfyrwyr - Mae gan bob modiwl fforwm ar-lein lle gallwch sgwrsio gyda’ch cyd-fyfyrwyr yn y Brifysgol Agored. Mae'n lle i drafod cynnwys y cwrs, gofyn cwestiynau ac yn aml, mae'n lle gwych ar gyfer cefnogi eich gilydd.
Gareth Jones, Baglor yn y Gyfraith LLB (Anrh)

Beth os oes angen gwneud addasiadau er mwyn helpu fy astudiaethau?
Gallwn gynnig ystod o addasiadau fel eich bod yn gallu gwneud y mwyaf o’ch astudiaethau gyda ni. Er enghraifft:
-
Gallwn roi mynediad i chi at fersiynau wedi'u recordio o diwtorialau i chi eu gwylio'n ôl. -
Gall eich tiwtor gysylltu â chi drwy ddull penodol, er enghraifft drwy e-bost yn hytrach na thros y ffôn. -
Gall eich tiwtor eich atgoffa’n rhagweithiol am ddyddiadau cau aseiniadau eich modiwl. -
Mae’n gyffredin i’r mwyafrif o fodiwlau gael trawsgrifiadau o unrhyw ddeunyddiau clywedol.
Hyd yn oed os nad ydych yn gwybod pa gymorth a allai fod yn ddefnyddiol i chi, cysylltwch â ni, a gallwn wneud ychydig o awgrymiadau.
Beth os oes angen cymorth arbenigol arnaf?
A oes cymorth ariannol ar gael?
-
Gall y Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) fod o gymorth i dalu am offer a chefnogaeth ychwanegol a all fod eu hangen arnoch o ganlyniad uniongyrchol i’ch anabledd, cyflwr iechyd parhaus, nam synhwyraidd, cyflwr iechyd meddwl neu anabledd dysgu penodol. Rydych yn gwneud cais am DSA drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru (CMC). Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw gwestiynau gallwn eich tywys chi drwy broses ymgeisio’r DSA. -
Bydd y ffurflen gais DSA ar gael ym mis Mai neu fis Mehefin ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf yn dechrau ym mis Awst. Gall gymryd hyd at bedwar mis i gwblhau’r broses lawn o ddechrau’r cais i dderbyn eich cefnogaeth. I gael popeth yn ei le ar gyfer pan fyddwch yn dechrau astudio, rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. I gael rhagor o fanylion am y broses ymgeisio am DSA, ewch i'n gwefan . -
Mae ystod o fwrsariaethau ar gael a all gynnig cymorth ariannol i fyfyrwyr y Brifysgol Agored yng Nghymru. Dysgwch fwy ar ein tudalen Ffioedd a Chyllid . -
Gall myfyrwyr y Brifysgol Agored yng Nghymru sy’n astudio tuag at gymhwyster cymwys gael cymorth ariannol hefyd i helpu gyda chostau byw. Gallech dderbyn grant hyd at £4,500, nad oes angen ichi ei ad-dalu, yn ddibynnol ar incwm eich aelwyd a dwyster eich astudiaeth. Mae benthyciadau cynhaliaeth hefyd ar gael. Ewch i'n tudalen Ffioedd a Chyllid i gael gwybod faint allech chi fod yn gymwys amdano.
Oes modd cael cymorth gyda fy nodau gyrfa?
-
datblygu eich hyder -
cynllunio gyrfa -
paratoi CV a fydd yn denu sylw -
cyfarfod cyflogwyr -
dod o hyd i leoliadau gwaith, a’u hariannu -
cael mynediad at hyfforddiant a gweithdai.


