Bioleg
Dysgwch fwy am y byd biolegol rhyfeddol sydd o'ch cwmpas.
Mae'r Brifysgol Agored yn darparu ystod o fodiwlau a chymwysterau bioleg, p'un ydych yn awyddus i ehangu eich gwybodaeth o bwnc, neu ddatblygu a newid eich gyrfa.
Pam astudio Bioleg gyda'r Brifysgol Agored?
Astudiwch fioleg gyda ni, a byddwch yn:
-
Archwilio a datblygu eich gwybodaeth o ystod eang o bynciau a chymwysiadau bioleg gan ddatblygu eich sgiliau gwyddonol.
-
Ymgymryd ag ystod o ymchwiliadau gartref a gwaith maes, yn ogystal ag arbrofion rhithwir drwy ein OpenScience Laboratory hynod lwyddiannus.
-
Dylunio ac ymgymryd â'ch prosiect ymchwil bach eich hun.
-
Cael cyfleoedd i ddatblygu gwaith maes a sgiliau ymarferol ymhellach drwy ysgolion preswyl byr, opsiynol.
-
Dod yn unigolyn graddedig hyblyg gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n hynod werthfawr mewn marchnadoedd swyddi gwyddonol ac anwyddonol.
Gyrfaoedd mewn Bioleg
Astudiwch Fioleg gyda'r Brifysgol Agored a byddwch yn datblygu'r sgiliau datrys problemau, dadansoddi, ymchwilio a chyfathrebu y mae nifer o gyflogwyr yn gofyn amdanynt. Byddwch yn gallu cymhwyso eich gwybodaeth a'ch sgiliau mewn nifer o wahanol feysydd a meysydd gwaith.
Gall ein hystod o gyrsiau mewn Bioleg eich helpu chi i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa mewn ystod eang o feysydd, gan gynnwys:
-
addysgu
-
ymchwil neu astudiaeth ôl-raddedig
-
meysydd milfeddygol, amaethyddol a meddygol
-
peirianneg biodechnoleg a biofeddygol
-
rheolaeth a chadwraeth amgylcheddol
-
adrannau llywodraethol, sefydliadau anllywodraethol (NGO) ac elusennau.
Archwilio ein cyrsiau Bioleg