England

Dywedwch wrthym ble rydych chi'n byw fel y gallwn ddarparu'r wybodaeth fwyaf perthnasol i chi wrth i chi ddefnyddio'r wefan hon.
Os ydych mewn cyfeiriad BFPO dewiswch y wlad neu'r rhanbarth lle byddech fel arfer yn preswylio.
Datganiad hygyrchedd
P'un a ydych yn awyddus i ennill persbectif newydd ar y ffordd yr ydym yn deall ac ymateb i heriau amgylcheddol sylweddol ein cyfnod, neu eisiau datblygu'ch gyrfa, gallwch gyflawni eich nod drwy astudio cwrs daearyddiaeth gyda'r Brifysgol Agored.
Mae gan Adran Ddaearyddiaeth y Brifysgol Agored gefndir o gynhyrchu ymchwil ac addysg arloesol. Yn y gweithgaredd Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf, dywedwyd bod 75% o'n hymchwil yn flaenllaw neu wedi'i gydnabod yn rhyngwladol o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd neu fanwl gywirdeb.
Manteision astudio daearyddiaeth gyda ni:
Yn wyneb heriau cymdeithasol ac amgylcheddol byd-eang cynyddol, mae sgil a gwybodaeth graddedigion daearyddiaeth yn dod yn fwyfwy gwerthfawr i sefydliadau sy'n awyddus i addasu i ffyrdd newydd o weithio.
Gall ein hystod o gyrsiau eich helpu chi i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa yn y meysydd canlynol:
Level info