England

Please tell us where you live so that we can provide you with the most relevant information as you use this website.
If you are at a BFPO address please choose the country or region in which you would ordinarily be resident.
Accessibility statement
Mae deallusrwydd artiffisial yn trawsnewid diwydiannau, yn gyrru arloesi ac yn ail-lunio ein bywydau a’n gwaith. Mae astudio AI gyda’r Brifysgol Agored yn galluogi i chi archwilio’r maes deinamig yma wrth eich pwysau eich hun, gydag arweiniad arbenigol a chwricwlwm blaengar.
Mae ein cymwysterau yn cyfuno sylfeini damcaniaethol gyda rhaglenni ymarferol, peiriannau sy’n dysgu, a gwyddor data. Byddwch yn dysgu i ddylunio systemau deallusol, deall goblygiadau moesegol, ac adeiladu datrysiadau ymarferol i heriau yn y byd go iawn.
Gyda thros 50 mlynedd o brofiad mewn dysgu ar-lein wedi’i gefnogi, rydym yn cynnig hyblygrwydd heb ei ail, fel y gallwch astudio o amgylch eich bywyd, ble bynnag rydych chi. Byddwch hefyd yn cael mynediad i labordai ar-lein fforymau arbenigol, a chymorth academaidd bob cam o’r ffordd.
Mae’r galw am weithwyr proffesiynol AI medrus yn cynyddu’n sylweddol ar draws sawl sector, gan gynnwys seiberddiogelwch, addysg, cyllid, gofal iechyd a roboteg. Mae ein cymwysterau AI yn eich paratoi chi ar gyfer amrywiol lwybrau gyrfa - o beiriannydd peiriannau sy’n dysgu a gwyddonydd data i ymgynghorydd AI a datblygwr meddalwedd.
Byddwch yn graddio gyda sgiliau rhaglennu technegol a dadansoddi data a bydd gennych ddealltwriaeth gadarn o foeseg AI, datrys problemau a dylunio system. P’un a ydych chi newydd ddechrau arni neu’n uwchsgilio, cewch eich paratoi ar gyfer rolau o fewn sector sy’n canolbwyntio ar y dyfodol ac sy’n tyfu’n gyflym.
Level info