Gwyddoniaeth
Atgyfnerthwch eich dealltwriaeth o'r byd gyda chwrs gwyddoniaeth yn y Brifysgol Agored. Gallwch arbenigo mewn seryddiaeth a gwyddor planedau, bioleg, cemeg, gwyddorau daear, gwyddoniaeth amgylcheddol, neu wyddorau iechyd. Felly, beth bynnag yw eich diddordebau, bydd cymhwyster i'ch herio a'ch gwobrwyo.
Pam astudio Gwyddoniaeth gyda'r Brifysgol Agored?
P'un a ydych yn dewis ystod eang o bynciau gwyddoniaeth, neu arbenigo yn eich astudiaeth, bydd gennych y cyfle i archwilio ym mha faes mae eich diddordebau gwyddonol. Gyda modiwlau a chymwysterau yn seiliedig ar ein hymchwil gwyddonol ac addysgol ein hunain, rydym yn ymfalchïo yn ein henw da rhyngwladol am addysgu ac ymchwil ar draws nifer o ddisgyblaethau gwyddoniaeth.
Gall y Brifysgol Agored gynnig:
-
Gwaith labordy ymarferol opsiynol mewn cemeg, ffiseg, neu fioleg ac iechyd, a gynhelir ar ein campws Milton Keynes.
-
Nifer o gyrsiau gwyddoniaeth sy'n defnyddio ein labordy hynod lwyddiannus OpenScience, sy'n eich caniatáu chi i gynnal arbrofion o bell ar-lein.
-
Cymwysterau wedi'u hachredu gan gyrff proffesiynol, megis y Sefydliad Ffiseg a'r Gymdeithas Fioleg Frenhinol.
-
Sgiliau trosglwyddadwy sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr.
Gyrfaoedd yn y maes Gwyddoniaeth
Ehangwch eich cyfleoedd gyrfa gydag addysgu o ansawdd uchel a rhan weithredol y Brifysgol Agored mewn rhaglenni ymchwil rhyngwladol. Gyda galw cynyddol ymhlith cyflogwyr am raddedigion medrus a chymwys, gallai hwn fod yn fan cychwyn i'ch gyrfa mewn:
-
addysgu
-
gweinyddiaeth neu reolaeth gwyddoniaeth
-
ymgynghoriaeth dechnegol
-
ymchwil diwydiannol.
Archwilio cyrsiau Gwyddoniaeth