Saesneg
Mae astudio Saesneg yn y Brifysgol Agored yn ffordd gyffrous o ehangu'ch sgiliau a'ch gwybodaeth. Gallwch astudio llenyddiaeth ysgogol o ystod gyffrous o gyfnodau a lleoliadau, dysgu sut mae'r iaith Saesneg yn cael ei defnyddio mewn amrywiaeth o gyd-destunau byd-eang a datblygu'ch sgiliau ysgrifennu creadigol.
Pam astudio Saesneg gyda'r Brifysgol Agored?
Bydd astudio Saesneg yn y Brifysgol Agored yn eich cyflwyno chi i syniadau newydd a ffyrdd o weld a datblygu'ch sgiliau mewn darllen ac ysgrifennu effeithiol a dadansoddi beirniadol.
-
Ddeunyddiau astudio ysgogol ac uchel eu parch yn archwilio llenyddiaeth ac iaith Saesneg mewn ffordd hygyrch a phleserus.
-
Addysgu sy'n seiliedig yn uniongyrchol ar ein hymchwil sydd â chydnabyddiaeth ryngwladol.
-
Detholiad o gyrsiau Llenyddiaeth ac Iaith Saesneg, gyda'r opsiwn o astudio disgyblaethau eraill hefyd, gan gynnwys ysgrifennu creadigol.
-
Rhaglenni sydd wedi'u dylunio i fynd â chi ymlaen mewn bywyd, datblygu'ch rhagolygon gyrfa a dyfnhau mewnwelediadau a gwybodaeth.
-
Ymunwch â rhyw 11,000 o fyfyrwyr yn astudio modiwlau a chymwysterau Saesneg y Brifysgol Agored.
Gyrfaoedd mewn Saesneg
Bydd astudio Saesneg yn rhoi cyfuniad hynod hyblyg o sgiliau i chi a all arwain at ystod eang o wahanol alwedigaethau. Mae galw mawr am y priodweddau y byddwch chi'n eu datblygu, megis meddwl yn feirniadol a sgiliau cyfathrebu, ym marchnad swyddi gystadleuol heddiw, ac mae Saesneg yn ddisgyblaeth uchel ei pharch ymhlith cyflogwyr graddedigion.
Gallai cymhwyster y Brifysgol Agored mewn Saesneg arwain at yrfa yn y meysydd canlynol:
-
hysbysebu, cysylltiadau cyhoeddus y diwydiannau creadigol
-
newyddiaduraeth a chyhoeddi
-
cyrff llywodraethol a sefydliadau celfyddydol
-
y byd addysg
-
adnoddau dynol, gwaith cyfreithiol, bancio, manwerthu
-
elusennau ac ymgyrchu.
Archwilio cyrsiau Saesneg