You are here

  1. Hafan
  2. Astudio
  3. Gwybodaeth i fyfyrwyr
  4. Cymorth i Ofalwyr

Cymorth i Ofalwyr

Mae gofalwr yn cynnwys unrhyw un sy'n gofalu am ffrind neu aelod o'r teulu heb dâl am nad yw ef/hi yn gallu ymdopi heb gymorth gofalwr oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu fod yn gaeth i rywbeth.

Ymddiriedolaeth Gofalwyr

Mae astudio gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru yn hyblyg, sy'n golygu y gallwch ffitio eich dysgu o'ch cwmpas chi. Dyna pam ein bod ni'n ddewis mor boblogaidd i ofalwyr. Rydym eisiau sicrhau bod ein cyrsiau a’n haddysg uwch yn hygyrch i ofalwyr ledled Cymru.

Rydym hefyd yn gweithio'n agos gydag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a'u rhwydwaith o ganolfannau gofalwyr ledled Cymru, gan gynnal sesiynau gwybodaeth a sesiynau blasu a chefnogi gofalwyr i gymryd eu camau cyntaf a’u camau nesaf mewn addysg uwch.

Cefnogi myfyrwyr sy’n ofalwyr

Yn 2018, fe wnaeth y Brifysgol Agored yng Nghymru lansio prosiect newydd i adnabod a rhannu arfer gorau wrth gefnogi ein myfyrwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu.

Trwy'r prosiect hwn rydym yn anelu i:

  • Annog mwy o fyfyrwyr i ddweud wrthym eu bod yn ofalwyr fel ein bod yn ymwybodol o'u sefyllfa ac yn gallu argymell cefnogaeth bellach.
  • Gweithio gyda'n myfyrwyr sy’n ofalwyr, tiwtoriaid, Cymdeithas Myfyrwyr y Brifysgol Agored, a thimau cymorth myfyrwyr i barhau i wella'r gwasanaethau a'r gefnogaeth rydym yn gynnig i'n myfyrwyr sy’n ofalwyr.

Cyrsiau ar-lein am ddim ar gyfer gofalwyr yng Nghymru

Datblygwyd Beth amdana i? Cwrs datblygiad personol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru gan y Brifysgol Agored ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. Mae'r cwrs wedi'i gynllunio ar gyfer gofalwyr o bob oed a gallu ac mae'n helpu gofalwyr i adnabod a myfyrio ar eu sgiliau a'u profiadau. Mae'r cwrs hefyd yn cynnwys gofalwyr o Gymru yn rhannu eu profiadau eu hunain o gydbwyso eu cyfrifoldebau gofalu gydag addysg a chyflogaeth. Fel adnodd ar-lein am ddim, gall y cwrs gael ei ddefnyddio yn rhad ac am ddim gan grwpiau gofalwyr neu ofalwyr sy'n astudio ar eu pen eu hunain.

Sesiynau gweithdy Beth amdana i?

Rydym yn cynnal sesiynau gweithdy Beth amdana i? i ofalwyr neu unrhyw un sy'n gweithio gyda gofalwyr ledled Cymru. Mae'r gweithdai hyn yn cynnig rhagflas o'r cwrs ac yn darparu gwybodaeth ymarferol ar opsiynau astudio pellach. Os ydych yn bwriadu defnyddio gweithdy Beth amdana i? mewn lleoliad cymunedol, gallwn ddarparu mwy o wybodaeth ac adnoddau cymorth i chi, gan gynnwys taflenni.

Adroddiad: Ehangu Cyfleoedd i Ofalwyr

Mae ein gwaith gyda gofalwyr wedi bod yn ehangu ers ein prosiect cyntaf yn 2010. Mae'r adroddiad ‘Ehangu Cyfleoedd i Ofalwyr' yn gwerthuso ein gwaith gyda gofalwyr rhwng 2010 a 2013. Mae'n rhoi cipolwg gwerthfawr ar anghenion gofalwyr os ydynt am fanteisio ar addysg uwch neu addysg bellach a llwyddo. Mae'n dangos bod cyfleoedd dysgu hyblyg - megis y rhai a ddarperir gan y Brifysgol Agored - yn hanfodol i ofalwyr sydd â bywydau prysur, anrhagweladwy ac, yn aml, yn llawn straen.

Os hoffech fod yn rhan o’n panel myfyrwyr sy’n ofalwyr a helpu i lywio ein gwaith gyda gofalwyr anfonwch e-bost at partneriaethau-cymru@open.ac.uk.