England

Please tell us where you live so that we can provide you with the most relevant information as you use this website.
If you are at a BFPO address please choose the country or region in which you would ordinarily be resident.
Accessibility statement
Women in kitchen assessing her finances
Efallai y byddai cymhwyster o'r Brifysgol Agored yn fwy fforddiadwy nag y byddech chi'n ei feddwl.
Yn yr adran hon, gallwch ddysgu faint fydd cost eich cymhwyster a sut i ariannu eich astudiaethau.
Cyfieithwch i'r Saesneg

Hyd at £4,500 y flwyddyn o gyllid nad yw'n ad-daladwy yn cael ei dalu'n uniongyrchol i chi i helpu gyda chostau byw.
Mae cymwysterau yn y Brifysgol Agored yn cynnwys cyfres o fodiwlau. Mae gan bob modiwl ffi unigol - wedi'i hadio at ei gilydd, maen nhw'n rhoi cyfanswm y gost i chi.
Byddwch yn ariannu eich modiwlau wrth i chi eu hastudio, felly ni fydd yn rhaid i chi dalu am eich cymhwyster cyfan ymlaen llaw.
Mae'r gost flynyddol yn dibynnu ar faint o fodiwlau rydych chi'n dewis eu cymryd. Gyda ni, mae gennych yr hyblygrwydd i addasu cyflymder eich astudiaethau bob blwyddyn i gyd-fynd â'ch gwaith, eich teulu ac ymrwymiadau eraill.
Mae astudio rhan-amser yn cyfateb yn fras i astudio ar hanner cyflymder myfyriwr ar gwrs amser llawn mewn prifysgol ar gampws.
Cymhwyster
Cymhwyster
Blynyddoedd i'w gwblhau
Blynyddoedd i'w gwblhau
Cost y flwyddyn*
Cost y flwyddyn*
Cyfanswm y gost*
Cyfanswm y gost*
Tystysgrif addysg uwch
(120 credyd)
Tystysgrif addysg uwch
(120 credyd)
2
2
£1,312
£1,312
£2,624
£2,624
Diploma addysg uwch
(240 credyd)
Diploma addysg uwch
(240 credyd)
4
4
£1,312
£1,312
£5,248
£5,248
Gradd anrhydedd
(360 credyd)
Gradd anrhydedd
(360 credyd)
6
6
£1,312
£1,312
£7,872
£7,872
Mae astudio'n amser llawn yn cyfateb i astudio ar yr un cyflymder â chwrs amser llawn mewn prifysgol ar gampws.
Cymhwyster
Cymhwyster
Blynyddoedd i'w gwblhau
Blynyddoedd i'w gwblhau
Cost y flwyddyn*
Cost y flwyddyn*
Cyfanswm y gost*
Cyfanswm y gost*
Tystysgrif addysg uwch
(120 credyd)
Tystysgrif addysg uwch
(120 credyd)
1
1
£2,624
£2,624
£2,624
£2,624
Diploma addysg uwch
(240 credyd)
Diploma addysg uwch
(240 credyd)
2
2
£2,624
£2,624
£5,248
£5,248
Gradd anrhydedd
(360 credyd)
Gradd anrhydedd
(360 credyd)
3
3
£2,624
£2,624
£7,872
£7,872
Mae holl fyfyrwyr y Brifysgol Agored yn cael eu hystyried yn fyfyrwyr rhan-amser at ddibenion cyllido, hyd yn oed os ydyn nhw'n astudio ar gyflymder amser llawn. Gall astudio ar gyflymder amser llawn effeithio ar eich hawl i rai budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd gan Lywodraeth y DU. Os yw hyn yn berthnasol i chi, cysylltwch â'r Adran Gwaith a Phensiynau i gael rhagor o gyngor.
Mae holl ddeunyddiau eich modiwl, eich gwersi, eich asesiadau a'ch arholiadau wedi'u cynnwys yn ffioedd ein modiwlau.
Nid yw rhai costau ychwanegol wedi'u cynnwys:
Mae rhagor o wybodaeth am gostau ychwanegol ar gael yn ein disgrifiadau o gymwysterau a modiwlau.
*Mae'r wybodaeth am ffioedd a ddarperir uchod yn ddilys ar gyfer modiwlau sy'n dechrau cyn 31 Gorffennaf 2026. Mae ffioedd fel arfer yn cynyddu bob blwyddyn. I gael rhagor o wybodaeth am bolisi ffioedd y Brifysgol, gweler ein Rheolau Ffioedd.
Peidio â thalu dim ymlaen llaw – dros 80% o'n myfyrwyr newydd yng Nghymru yn ariannu eu hastudiaethau gyda Benthyciad Ffioedd Dysgu Rhan-amser (a elwir weithiau'n fenthyciad myfyrwyr), sy'n golygu nad ydynt yn talu dim ymlaen llaw.
Mae rhagor o wybodaeth am hyn a'n dewisiadau cyllido eraill ar gael isod.
Benthyciad Ffioedd Dysgu Rhan-amser
Talu eich ffioedd mewn rhandaliadau gyda benthyciad gan Gyfrifon Cyllideb Myfyrwyr y Brifysgol Agored Cyf.
Benthyciad OUSBA
Gallai eich cyflogwr dalu ffioedd eich modiwl yn rhannol neu'n llawn.
Nawdd cyflogwr
Talu am bob modiwl gyda cherdyn debyd neu gredyd mewn un taliad cyflym a syml.
Talu â cherdyn
Os ydych chi'n aelod o'r Lluoedd Arfog, gallai ELC helpu i ariannu eich astudiaethau.
Credydau Dysgu Uwch (ELCs)
Cyfunwch eich opsiynau talu i ariannu eich astudiaethau fel y mynnwch.
Taliadau cymysg
Os ydych chi wedi astudio yn y brifysgol o'r blaen, arbedwch amser ac arian drwy gyfrif eich credyd academaidd tuag at gymhwyster yn y Brifysgol Agored.
Trosglwyddo credyd
Gallech fod yn gymwys i gael benthyciad ffioedd dysgu gan Gyllid Myfyrwyr Cymru i ailsgilio neu uwchsgilio mewn seicoleg, gwyddoniaeth, cyfrifiadura, mathemateg, nyrsio neu ofal iechyd, hyd yn oed os ydych wedi cael un o'r blaen.
Mae benthyciadau ffioedd dysgu ar gael i astudio ail radd mewn amrywiaeth o bynciau.
Benthyciadau i ddeiliaid gradd
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gallech fod yn gymwys i wneud cais am un neu fwy o'r canlynol:
Os ydych chi'n fyfyriwr rhan-amser newydd sy'n byw yng Nghymru, gallech gael hyd at £4,500 y flwyddyn mewn grantiau cynhaliaeth nad oes angen eu had-dalu.
Cymorth ariannol
Os nad yw incwm eich cartref yn fwy na £25,000, gallech gymryd un o'n modiwlau Mynediad rhagarweiniol am ddim.
Modiwl Mynediad am ddim y Brifysgol Agored
Ar ôl i chi ddechrau astudio, os ydych chi'n gymwys, gallech gael ad-daliadau ar gyfer rhai costau astudio ychwanegol.
Cyllid Costau sy'n Gysylltiedig ag Astudio
Os ydych chi'n ofalwr di-dâl neu wedi bod yn ofalwr di-dâl yn ddiweddar, efallai y gallwch astudio cymhwyster llawn am ddim.
Ysgoloriaeth Gofalwyr
Os ydych chi'n 30 oed neu'n iau ac wedi bod yng ngofal awdurdod lleol neu yng ngofal awdurdod lleol ar hyn o bryd, efallai y gallwch astudio cymhwyster llawn y Brifysgol Agored am ddim.
Ysgoloriaeth Profiad o Ofal
Gallech gael cymorth ariannol tuag at gostau astudio oherwydd eich anabledd.
Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA)
Os ydych chi wedi cael anaf mewn gwasanaeth milwrol neu o ganlyniad iddo, gallech astudio cymhwyster llawn am ddim.
Cronfa Ysgoloriaethau i Gyn-filwyr Anabl
Os ydych chi'n ystyried eich hun o gefndir Du, gallech astudio cymhwyster llawn am ddim.
Ysgoloriaeth i Fyfyrwyr Du
Os ydych chi'n breswylydd yn y DU sydd wedi cael ei ddadleoli o'ch mamwlad neu'ch man preswylio oherwydd pwysau gwleidyddol, economaidd, ethnig, amgylcheddol neu hawliau dynol, gallech fod yn gymwys i astudio am ddim.
Ysgoloriaeth Noddfa
Gall ein hadnodd Canfod Cyllid eich helpu i ddod o hyd i opsiwn cyllido sy'n addas i chi.
Rydym wedi ei gwneud yn gyflym ac yn hawdd i chi ddod o hyd i'ch opsiynau talu. Atebwch ychydig o gwestiynau byr i gael gwybod am eich ffyrdd o dalu.
Adnodd Canfod Cyllid
2 funud a 12 eiliad
Dysgwch beth sydd wedi'i gynnwys yn ffioedd eich cwrs a'r opsiynau ariannu sydd ar gael i chi.
O ran ansawdd yr addysg rydw i wedi'i chael, mae wedi bod yn wych. I mi, mantais fwyaf y Brifysgol Agored yw y gallaf ennill cyflog wrth ddysgu. Mae gen i ffrindiau sydd ddim yn gwybod sut maen nhw'n mynd i ymdopi â chostau byw oddi cartref.
Fyddwn i ddim wedi gallu gwneud y radd heb y cyllid sydd ar gael. Fyddwn i ddim wedi gallu talu fy miliau. Mae'r grant yn ei gwneud yn bosibl astudio a gweithio ar yr un pryd.
Level info