Mae grantiau cynhaliaeth, gwerth hyd at £4,590 y flwyddyn, ar gael yn awr. Ni fydd angen i chi ad-dalu unrhyw arian y byddwch yn ei dderbyn. Nid benthyciad yw hwn.
Incwm eich cartref a chyflymder astudio sy'n pennu'r swm a ddyfernir i chi. Er enghraifft, os oes gennych incwm cartref blynyddol o hyd at £25,000 ac yn astudio:
Byddwch hefyd yn gymwys i wneud cais am fenthyciad cynhaliaeth nad yw'n dibynnu ar brawf modd, os bydd ei angen arnoch, i 'ategu’r’ cymorth ariannol rydych wedi'i gael drwy grantiau.
Mae'r tablau isod yn crynhoi cyfanswm y cymorth y gallech ei gael.* I fod yn gymwys, rhaid eich bod wedi dechrau eich astudiaethau o fis Medi 2018.
Incwm y cartref Incwm y cartref | Grant cynhaliaeth Grant cynhaliaeth | Benthyciad cynhaliaeth Benthyciad cynhaliaeth | Cyfanswm Cyfanswm |
|---|
£25,000 £25,000 | £1,530 £1,530 | £791 £791 | £2,321 £2,321 |
£35,000 £35,000 | £1,157 £1,157 | £1,164 £1,164 | £2,321 £2,321 |
£45,000 £45,000 | £785 £785 | £1,537 £1,537 | £2,321 £2,321 |
£59,200 neu fwy £59,200 neu fwy | £255 £255 | £2,066 £2,066 | £2,321 £2,321 |
Incwm y cartref Incwm y cartref | Grant cynhaliaeth Grant cynhaliaeth | Benthyciad cynhaliaeth Benthyciad cynhaliaeth | Cyfanswm Cyfanswm |
|---|
£25,000 £25,000 | £3,060 £3,060 | £1,583 £1,583 | £4,643 £4,643 |
£35,000 £35,000 | £2,315 £2,315 | £2,328 £2,328 | £4,643 £4,643 |
£45,000 £45,000 | £1,569 £1,569 | £3,074 £3,074 | £4,643 £4,643 |
£59,200 neu fwy £59,200 neu fwy | £510 £510 | £4,133 £4,133 | £4,643 £4,643 |
Incwm y cartref Incwm y cartref | Grant cynhaliaeth Grant cynhaliaeth | Benthyciad cynhaliaeth Benthyciad cynhaliaeth | Cyfanswm Cyfanswm |
|---|
£25,000 £25,000 | £4,590 £4,590 | £2,374 £2,374 | £6,964 £6,964 |
£35,000 £35,000 | £3,472 £3,472 | £3,492 £3,492 | £6,964 £6,964 |
£45,000 £45,000 | £2,354 £2,354 | £4,610 £4,610 | £6,964 £6,964 |
£59,200 neu fwy £59,200 neu fwy | £765 £765 | £6,199 £6,199 | £6,964 £6,964 |
*Mae'r holl rifau wedi cael eu talgrynnu i'r £1 agosaf, ac felly, efallai na fydd symiau grantiau a benthyciadau sy'n cael eu dangos mewn tablau bob amser yn cyfateb i gyfanswm y cymorth.
Dylech ddisgwyl cael eich taliad cynhaliaeth cyntaf tua phedair wythnos ar ôl dechrau eich modiwl. Mae hyn yn rhoi amser i ni gadarnhau eich bod yn cymryd rhan a chyflwyno cadarnhad o'ch presenoldeb i Gyllid Myfyrwyr Cymru, a fydd yn gwneud taliad i'ch cyfrif banc.
I fod yn gymwys i gael cymorth ariannol, rhaid i chi fodloni'r canlynol:
I gael rhagor o wybodaeth am bwy sy'n gymwys, ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Os oes gennych eisoes radd anrhydedd neu gymhwyster lefel uwch, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth at gostau byw i astudio gradd anrhydedd bellach cyn belled â bod eich ail radd mewn pwnc cymeradwy a'ch bod yn bodloni gweddill y meini prawf cymhwysedd.
I gael rhagor o wybodaeth am feini prawf cymhwysedd a'r cymwysterau sydd ar gael, ewch i'n gwefan cymwysterau lefel gyfatebol.
Os oes gennych blant neu oedolion sy'n dibynnu arnoch ac yn astudio ar ddwysedd o 25% o leiaf, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am grantiau ychwanegol sy'n seiliedig ar asesiad incwm gan Gyllid Myfyrwyr Cymru. Mae'r cymorth sydd ar gael yn cynnwys Grant Gofal Plant, Lwfans Dysgu i Rieni a Grant Oedolion Dibynnol.
Os ydych chi'n hawlio budd-daliadau sy'n seiliedig ar brawf modd, fel Credyd Cynhwysol, gallwch wneud cais am Grant Cymorth Arbennig gan Gyllid Myfyrwyr Cymru yn hytrach na'r grant cynhaliaeth. Dylai'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ddiystyru'r Grant Cymorth Arbennig fel incwm wrth gyfrifo eich hawl i fudd-daliadau. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.