England
Where do you live?
Beth yw'r Brifysgol Agored?
-
Ni yw'r darparwr addysg uwch israddedig rhan-amser mwyaf yng Nghymru. -
Mae dros 14,500 o fyfyrwyr, o bron bob cymuned yng Nghymru, yn astudio gyda ni ar hyn o bryd, ac mae dros ddau draean ohonynt mewn swyddi llawn amser yn ystod eu hastudiaethau. -
Rydym yn arweinydd byd-eang o ran cynnig cyfleoedd dysgu o bell arloesol a hyblyg ar lefel addysg uwch. -
Mae mwy o Brif Swyddogion Gweithredol a Rheolwyr Gyfarwyddwyr cwmnïau yn y DU wedi astudio gyda ni nag unrhyw brifysgol arall yn y DU1.
Pam mai’r Brifysgol Agored yw’r dewis cywir i chi
Mae ein cyrsiau rhan amser yn rhoi cyfle ichi ennill cymhwyster heb orfod aberthu beth sy’n bwysig i chi. P’un a yw hynny’n gofalu am eich teulu, gweld eich ffrindiau neu weithio, mae ein cyrsiau’n ffitio o amgylch eich bywyd chi. Yn wir, mae dros 70% o’n myfyrwyr mewn swydd llawn amser neu ran amser.
Cefnogaeth i fyfyrwyr anabl
Rhowch hwb i'ch hyder gyda chwrs Mynediad

Mae astudio gyda'r Brifysgol Agored yn fwy fforddiadwy na’r disgwyl
Gallech hefyd dderbyn hyd at £4,500 y flwyddyn nad oes angen ichi ei ad-dalu, wedi’i dalu’n uniongyrchol i chi er mwyn helpu â chostau byw os ydych yn astudio’n rhan amser.
Eisiau dechrau arni? Ewch amdani!

